Wicipedia:Tiwtorial (Nodi ffynonellau)

Oddi ar Wicipedia
Cyflwyniad   Golygu   Chwilio   Dolennau   Ffynonellau   Mewngofnodi   Sgwrs   Ymestynol   Arall    

Pan fyddwch yn ychwanegu gwybodaeth at erthygl, sicrhewch eich bod yn cynnwys eich ffynonellau, oherwydd fe ddilëir ffeithiau neu erthyglau gydag elfennau dadleuol sydd heb ffynonellau. Y ffordd orau o wneud hyn yw trwy ddefnyddio dyfyniad mewnol a throednodyn er mwyn i olygwyr a darllenwyr eraill fedru gwirio'r wybodaeth rydych yn ei hychwanegu. Sicrhewch fod y ffynonellau a ddefnyddiwch yn ddibynadwy. Mae gwneud hyn yn un o gonglfeini Wicipedia ac yn sicrhau, o'i wneud yn gywir, y bydd eich golygiad yn parhau yn ogystal â rhoi geirwiredd i'r gwaith.

Fideos hyfforddi

Troednodiadau

Cyfeiriadaeth syml

Y ffordd arferol o greu dyfyniad mewnol yw trwy ddefnyddio troednodiadau ar ffurf ffynhonnell neu gyfeiriad. Gallwch greu troednodiadau gydag iaith marcio Wici drwy ychwanegu tagiau cyfeirio mewn côd Wici:

  1. <ref> EICH FFYNHONNELL e.e. Gwefan y BBC </ref> o amgylch eich ffynhonnell;
  2. {{Cyfeiriadau}} o dan y pennawd ==Cyfeiriadau== yn agos i waelod y dudalen, fel hyn:

==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}


Mae dwy ran felly i hyn: y cyntaf ydy gosod y wybodaeth yn nghorff yr erthygl ei hun (er na fydd yn ymddangos yno) a'r ail ydy gosod côd ar waelod y dudalen, sy'n arddangos yr wybodaeth yn otomatig fel troednodyn neu gyfeiriad.

Ceir sawl math o gyfeiriadau, yn ddibynol ar eich ffynhonnell:

Gwefan

Os mai gwefan yw eich ffynhonnell, dylech greu dolen allanol i gyfeiriad y wefan gydag enw'r wefan a pha bryd y gwnaethoch edrych arni. Peidiwch â defnyddio erthyglau eraill o Wicipedia fel ffynonellau; mae hyn yn rheol.

Er mwyn creu dolen allanol i'ch ffynhonnell, rhowch gyfeiriad y wefan (yr URL) mewn cromfachau sgwâr cyn y testun a fyddwch yn ychwanegu, megis:

  • <ref>[http://www.google.com Peiriant chwilio Google]</ref>

Dylid darparu disgrifiad byr ar ôl cyfeiriad y ddolen allanol. Bydd y disgrifiad hwn yn ymddangos yn y rhestr o gyfeiriadau fel teitl y ddolen allanol. Yn ychwanegol i hyn, dylech nodi pa bryd y gwelsoch y wefan drwy "adalwyd" e.e. * <ref>[http://www.google.com Peiriant chwilio Google]; adalwyd 05/04/2013.</ref> Byddai'n ddymunol hefyd nodi enw'r awdur a'r teitl hefyd.

Llyfrau

Math arall o ffynhonnell yw llyfr dibynadwy e.e. llyfr academaidd. Yn wahanol i Wicipedia, dydy'r rhan fwyaf o lyfrau ddim yn cynnwys ffynonellau'r wybodaeth sydd ynddynt - felly byddwch yn ofalus. Oherwydd hyn, dim ond llyfrau (a gwefannau) dibynadwy a sylweddol y medrwn ymddiried ynddynt y dylech eu defnyddio.

Pan rydych yn dyfynnu o lyfr, dylech nodi'r teitl, yr awdur, y cyhoeddwr, dyddiad cyhoeddi a rhif y dudalen. Os dymunwch, gallwch fynd gam ymhellach na hyn e.e.

* {{Cite book|last=Cole|first=B.|title=Taiwan's Security: History and Prospects|publisher=Routledge|year=2006|month=January|isbn=0-415-36581-3}}>

Mae copio'r cyfeiriad o'r Saesneg (neu iaith arall) yn hawdd, ond cofiwch gyfieithu'r mis. Gallwch hefyd eu hychwanegu yn Gymraeg:


*{{dyf llyfr|olaf=Cole|cyntaf=B.|teitl=Taiwan's Security: History and Prospects|cyhoeddwr=Routledge|blwyddyn=2006|mis=Ionawr|isbn=0-415-36581-3}}

Mae'r ddwy enghraifft uchod yn gwbwl dderbyniol, gan mai'r hyn sy'n bwysig ydy mai'r Gymraeg yw'r iaith weledol i'r darllenydd cyffredin.

Cyfeiriadaeth aml-ddefnydd

Gellir CYFUNO NIFER O GYFEIRIADAU AT UN FFYNHONNELL GAN DDEFNYDDIO UN RHIF trwy roi enw i'r cyfeiriad yn y cod. Dyma sut i'w wneud:

<ref name=A>Ffynhonnell A</ref> 

yn yr achos gyntaf, a 

<ref name=A/> 

i ddefnyddio'r un cyfeiriad eto, sy'n rhoi: [1] a [1]

Esiampl

Dyma'r cod ar gyfer yr enghraifft gyntaf...

<ref name=Linnard (2000)>Linnard, W. (2000) ''Welsh Woods and Forests'' Gomer</ref

....a dyma'r cod ar gyfer yr ail enghraifft...

<ref name=Linnard (2000)/>


Yr adran dolenni allanol

Mae gan nifer o erthyglau Wicipedia adran ar wahân o'r enw Dolenni allanol, tua gwaelod y ddalen. Ar gyfer cysylltu â gwefannau sydd â gwybodaeth ychwanegol, sylweddol a dibynadwy. Nid yw pob un ddolen allanol yn addas i'w defnyddio mewn erthygl ar Wicipedia: byddwch ddethol! O'u gwneud yn iawn mae'r adran hon hefyd yn gweithredu fel "ffynhonnell" i'r darllenydd.

Mae'n ddigon hawdd eu creu, ac mae'r fformat yn ddigon tebyg i'r cyfeiriadau uchod, ond heb y <ref>s. Dyma'r drefn arferol: cromfach sgwar yn gyntaf ac yna'r URL; yna rhowch fwlch; mae'r bwlch hwn yn bwysig gan ei fod yn rhannu'r hyn a welir a'r hyn nas gwelir. Mae'r hyn a ddaw ar ôl y bwlch yn weledol, er enghraifft:

[http://www.google.com Peiriant chwilio Google]

Dim ond y testun sy'n dilyn y bwlch ("Peiriant chwilio Google") sy'n weledol:

Peiriant chwilio Google

Os yw eich dolen yn pwyntio i wefan nad yw'n Gymraeg, dylech nodi hynny ar ddechrau'r ddolen gyda {{eicon en}} neu {{eicon br}} sy'n rhoi:

  • (Saesneg) [www.cymruambyth.com Gwefan swyddogol the Society for the Protection of Non-conformist Methodistm....; adalwyd 06/04/2013]
  • (Llydaweg) ....

Yr adran lyfryddiaeth

Weithiau, pan ddyfynir o nifer o lyfrau, gellir defnyddio'r term "Llyfryddiaeth" fel is-bennawd, ynghyd â rhestr o lyfrau a gyfeirir atynt yng ngorff yr erthygl. Dylech ddechrau pob llinell gyda seren (*), sy'n creu bwled e.e.

  • "Y Dydd Cyntaf" gan Aled Alffa Jones; cyhoeddwyd gan Wasg Botwm Bol; cyhoeddwyd 1911.

Rhoi Nodion ar erthyglau

Os dowch o hyd i erthygl sydd a pheth gwybodaeth dadleuol ynddi, rhowch y Nodyn hwn ar frig y dudalen:

{{angen ffynhonnell}}

Mae hyn yn rhestru'r tudalennau sydd angen gwaith arnynt mew un man taclus. Mae Nodyn yn gôd Wici arbennig sy'n galw am wybodaeth o lefydd eraill, fel arfer, neu'n galw tudalen gyfan i'r man lle caiff y Nodyn ei gosod.


Profwch yr hyn rydych wedi ei ddysgu yn y Pwll tywod

Parhau â'r tiwtorial gyda Tudalennau sgwrs

Gweler hefyd