Wicipedia:Llywio sylfaenol

Oddi ar Wicipedia
Cymorth:CynnwysCymorth:Cynnwys
Cymorth:Cynnwys
Cymorth:Cynnwys
Dod o hyd i erthyglau a swyddogaethau'r safle

Llywio elfennol yn Wicipedia[golygu cod]

Sut i lywio o amgylch Wicipedia[golygu cod]

Mae holl erthyglau Wicipedia wedi eu cysylltu â'i gilydd, neu wedi'u croesgyfeirio.

Pan welwch destun fel hwn, mae hyn yn golygu fod dolen i erthygl berthnasol arall ar Wicipedia gyda gwybodaeth ychwanegol os oes ei angen arnoch. Wrth ddal y lygoden dros y ddolen, byddwch yn gwel di ble y bydd y ddolen yn mynd a chi. Golyga'r dolenni hyn nad oes angen i erthyglau ymdrin â meysydd cyffredin mewn manylder; yn hytrach, dim ond un clic i ffwrdd yr ydych o wybodaeth sydd ar ben draw dolen wahanol.

Yn ogystal â hyn, ceir dolenni eraill tuag at ddiwedd y mwyafrif o erthyglau, sy'n ymwneud ag erthyglau eraill o ddiddordeb, gwefannau a thudalennau allanol perthnasol eraill, a chyfeiriadau. Ar ddiwedd erthygl, ceir categorïau gwybodaeth perthnasol lle gallwch chwilio a gweld hierarchiaeth rhyng-gysylltiol o wybodaeth am faes penodol.

Efallai fod gan rhai erthyglau ddolenni at ddiffiniadau geiriadurool, darlleniadau llyfrau clywedol, dyfyniadau, neu'r un erthygl mewn iaith wahanol.

Gallwch ychwanegu dolenni eraill os yw dolen berthnasol ar goll; dyma un ffordd y gallwch gyfrannu.

Prif dudalen[golygu cod]

Ceir bar pori ar frig y Prif Dudalen gyda dolenni at Gategorïau, Pyrth, Erthyglau dethol a mynegai A-Y. Mae pob categori yn restr o îs-gategorïau neu erthyglau. Mae'r pyrth yn mynd a chi at îs-byrth a phyrth, sy'n grynodebau erthyglau darluniedig fel a welir ar y Brif Dudalen. Erthyglau dethol yw'r ffordd orau o ddarganfod yr erthyglau, lluniau, rhestrau a phyrth gorau yn y gwyddoniadur. Mae'r mynegai A-Y yn darganfod tudalennau gan ddefnyddio'r ddwy neu dair lythyren gyntaf o'r teitl.

Pori'r cynnwys a'r mynegai[golygu cod]

Mae Wicipedia yn cynnwys swm aruthrol o wybodaeth ar bob math o bynciau yn amrywio o wleidyddiaeth, gwyddoniaeth, hanes, cerddoriaeth, crefydd, diwylliant pop, a chwaraeon yn ogystal â nifer fawr o destunau eraill.

Er mwyn eich cynorthwyo i ddod o hyd i wybodaeth yn y drysfa enfawr hwn o wybodaeth, mae gan Wicipedia nifer o dudalennau sy'n gosod trefn ar y cynnwys. Mae'r rhestrau a'r mynegai hyn yn defnyddio dolenni i erthyglau sydd wedi eu trefnu yn ôl pwnc neu yn ôl trefn yr wyddor. Mae'r cynnwys gorau hefyd yn cael ei arddangos ar y rhestr Erthyglau dethol. Rhestrir dolenni i holl prif dudalennau cynnwys Wicipedia isod, ac mawn nhw yn cysylltu â'r lleill yn eu tro.
Nodyn:Contents pages (footer box)

Pori categorïau[golygu cod]

Mae gan bob erthygl restr ar y gwaelod o'r holl gategorïau mae'r erthygl yn perthyn iddynt. Er enghraifft, rhestrir Albert Einstein o dan:

genedigaethau 1879, marwolaethau 1955, ffisegwyr Almaenig.

Gellir pori pob un o'r categorïau hyn ac maent wedi'u cysylltu â chategorïau eraill mewn gwê rhyng-gysylltiol.

Os hoffech, porwch y categorïau isod:

Y Celfyddydau | Diwylliant | Daearyddiaeth | Hanes | Mathemateg | Pobl | Athroniaeth | Gwyddoniaeth | Cymdeithas | Technoleg

Am fwy o wybodaeth ar sut i ddefnyddio'r swyddogaeth hon, gweler Wicipedia:Cwestiynau Cyffredin/Categorïau.