Wicipedia:Cynnwys di-rydd

Oddi ar Wicipedia
Nodyn: yng Ngorffennaf 2014, ychwanegwyd dehongliad Sefydliad Wicimedia o'r term 'Defnydd Teg' yn Unol Daleithiau America yma.

Yng ngwledydd Prydain a Gogledd Iwerddon, defnyddir y term "Delio'n Deg" (Fair dealing) yn hytrach na "Defnydd Teg", a cheir gwybodaeth yma: Wicipedia:Canllaw sail resymegol defnydd di-rydd a'r meini prawf yma.

Yn Neddf Hawlfraint, Cynllunio a Phatentau 1988 (Copyright, Designs and Patents Act 1988 (CDPA)), cyfyngir delio'n deg i'r pwrpas o ymchwil ac astudiaeth preifat (ac mae'n rhaid i'r ddau yma fod yn anfasnachol). Fe'i caniateir hefyd i bwrpas beirniadaeth, adolygu, dyfynu ac adroddiadau newyddion; hefyd: parodi, caracature, pastiche a delweddau ar gyfer addysgu.

Nodir hefyd yn y ddeddf y defnydd 'achlysurol' o waith sydd mewn hawlfraint os yw hwnnw'n ymwenud â gwaith celf, recordiad sain, ffilm, darllediad neu raglen cebl - heb dorri'r hawlfraint. Ers 2014 mae'r Deyrnas Unedig wedi gwarchod yr eithriadau hyn rhag iddynt gael eu heffeithio gan gytundebau, termau neu amodau eraill.