Wicipedia:Cynllun Datblygu 2012-13

Oddi ar Wicipedia

Cynllun Datblygu'r Wicipedia Cymraeg 2012-13

Clöwyd y dudalen hon ar 15 Medi 2012; mae croeso i chi adael sylwadau ar y dudalen "Sgwrs". Mae'n gofnod hanesyddol o'n datblygiadau a'n gweithgareddau diweddar.

Bydd trafodaeth ymarferol ar rai elfennau'n diwgwydd yma: Wicipedia:Hyrwyddo a Chyhoeddusrwydd.

English translation by GoogleTranslate

Mae'r cyfnod o ymgynghori nawr ar ben. Ni chafwyd yr un gair negyddol ar unrhyw bwynt gan neb! Mae hyn yn anhygoel! Bu'r trafodaethau a'r sylwadau'n fuddiol iawn. Cyflwynwyd y Cynllun Datblygu i Fwrdd Wikimedia UK, a chytunwyd i'w gefnogi.

Os ydych yn dymuno gwneud mwy mewn unrhyw ffordd danfonwch ebost-Wici at Lywelyn.

1. Ffôn Cymraeg

Mae nifer o aelodau WikimediaUK yn cynnig eu gwasanaeth i fynd a'r maen i'r wal. Mae'r hen ffôn, bellach yn ystrodur San Ffaganaidd! Mae nawdd ar gael hefyd os oes angen talu am raglennu neu feddalwedd. Cyn-gadeirydd y Bwrdd, sef Roger Bamkin ydy'r naill a John Cummings (Pedia Trefynwy ydy'r llall); Roger, gyda llaw, sydd wedi creu QRpedia. Mae nhw am gysylltu ar unwaith gyda Hacio'r Iaith ac awgrymaf fod Defnyddiwr:Ben Bore yn arwain, oherwydd ei wybodaeth o'r maes hwn. Targed: Eisteddfod Bro Morgannwg 2012.

  • Gweithredu: Yn dilyn llawer o drafodaethau, gobeithir y bydd Leighton Andrews AC, Gweinidog Addysg a Sgiliau a ninnau (Wicipedia Cymraeg) yn lansio ffôn Cymraeg tua Mawrth 2013. Deallwn fod gan Microsoft ddiddordeb i wneud y gwaith. Cyfarfu Llywelyn2000 (a Roger Bamkin, cyn-Gadeirydd WMUK) â Leighton Andrews ar y 9fed o Orffennaf i drafod hyn. Roedd LA yn gefnogol i bopeth a gynigiwyd ac addawodd ymchwilio i fewn i nifer o'r pwyntiau a godwyd.

2. Polisi rhyddhau ffeiliau'r Cynulliad

Lobio'r Cynulliad / Llywodraeth Genedlaethol i orfodi cyrff cyhoeddus i ryddhau eu harchifau (gan gynnwys delweddau, sain, fideo a thestun ayb) o dan drwyddedau Creative Commons, fel y gallem ninnau eu defnyddio. Mae cynsail i hyn eisioes yn bodoli: gweler yma. Byddai hyn yn sicrhau i ni'r hawl i ddefnyddio ffotograffau a thestun Cadw, y Comisiwn Brenhinol Dros Henbion ayb ar gyfer Wicipedia - fel eu bont yn hygyrch i bobl Cymru. Gwneud hyn hefyd gyda Chyngor Cefn Gwlad Cymru.

Cyfarfu Llywelyn2000 a chyn Gadeirydd WMUK, sef Roger Bamkin a Leighton Andrews AC, Gweinidog Addysg a Sgiliau gan argymell newid deddfwriaeth ynghylch rhoi gorfodaeth ar gyrff a oedd yn derbyn arian gan y Llywodraeth i gofrestru eu ffeiliau gyda thrwydded CC-BY-SA. Cytunodd LA i godi'r mater gyda Gweinidogion eraill a'i fod yn cytuno mewn egwyddor y dylai Cymru fod ar flaen y gad yn hyn o beth.

Mae trafodaethau rhwng Andrew Green, Prif Lyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Wicipedia Cymraeg wedi digwydd ynghylch rhyddhau ffeiliau. Roedd AG a'i swyddog hawlfreintiau (Dafydd Tudur) yn hynod gefnogol mewn egwyddor. Yr hyn sy'n ein dal yn ôl ydy fod trwyddedau Comin / Wicipedia yn caniatau defnydd gan fusnes o ffotograffau, ond nid yw'r rhan fwyaf o lyfrgelloedd a chyrff eraill (gan gynnwys Casgliad y Werin) ddim yn caniatáu hyn. Bydd Prosiect Prawf yn cael ei arwain gan Gasgliad y Werin i ryddhau 50 o ffotograffau, gyda'r bwriad, os yw'n llwyddiannus o ryddhau llawer iawn mwy. Gwrthododd Cadw ryddhau yr un ffotograff. Mae'r Llyfrgell Genedlaethol, fodd bynnag, mor avant-garde ag erioed.

Arwain: Defnyddiwr:Llywelyn2000

Gweithredu: Cyfarfu Llywelyn2000 ac un o Ddefnyddwyr Comins, gyda Lleucu Siencyn, Llenyddiaeth Cymru i drafod y posibilrwydd o ryddhau Gwyddoniadur Cymru ar Drwydded Agored. Cyfarfu hefyd gyda staff Casgliad y Werin.
Gweithredu: Dechreuwyd trafodaethau tebyg gyda Chymdeithas y Cymrodorion parthed "Y Bywgraffiadur Ar-lein", Cymdeithas Edward Llwyd, Gŵyl Tegeingl ac eraill.

3. Wicipediwr Preswyl

Mae'r Llyfrgell Genedlaethol eisioes wedi cefnogi Wicipedia drwy gyfrannu dros 2,000 o hen ffotograffau John Thomas. Y nod yw creu swydd / rhyddhau aelod o'r staff fel Wicipediwr Mewn Swydd (Wikipedian in residence) fel mae'r Amgueddfa Brydeinig a'r Llyfrgell Brydeinig wedi'i wneud yn ddiweddar. Gall WikimediaUK gyfrannu tuag at gyflogi'r aelod o staff newydd. Byddai hyn yn rhyddhau person i'w hyfforddi mewn sgiliau golygu Wicipedia am gyfnod o 2 - 6 mis ac yna i weithio mewn sawl maes e.e. gwneud y ffotograffau sydd eisioes wedi'u rhyddhau yn fwy hygyrch, creu erthyglau newydd ar wahanol adrannau o'r Llyfrgell a gwerthuso'r oblygiaidau o ryddhau holl destun Adran y Bywgraffiadur ar drwydded CC, fel y gallem ninnau ei ddefnyddio.

Bu Roger Bamkin a Llywelyn2000 yn cyfarfod Andrew Green, Prif Lyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru a'i dîm a chafwyd cefnogaeth mewn egwyddor i Wicipedian-Mewn-Swydd; targedwyd arian ar gyfer y swydd ac mae'r trafodaethau'n parhau.

Gweithredu: Cyfarfu Llywelyn2000 hefyd â Dr Beth Thomas ym Mehefin ac yna yn Awst i edrych a oedd yna dir cyffredin rhyngom. Yn dilyn y cyfarfodydd hyn mae adroddiad wedi'i gyflwyno iddi ar y posibiliadau. Llywelyn2000 (sgwrs) 13:45, 27 Awst 2012 (UTC)[ateb]

4. Creu Golygyddion newydd i Wici

Awgrymaf ein bod yn gwneud cais am arian i gyflogi person i hyfforddi pobl o fewn ein cymunedau a'r gweithlu mewn sgiliau Wicipedia, drwy gyfrwng y Gymraeg. Byddai gwneud cais am nawdd i wneud hyn, dw i'n credu yn cael ei dderbyn. Mae'r nifer sy'n golygu wedi mynd i lawr ryw ychydig yn ystod y chwe mis diwethaf - er bod y nifer o erthyglau wedi mynd i fyny! Sylwedda pobl, bellach, fod 95% o erthyglau Wicipedia'n dod i fyny o fewn y 3 cyntaf - yn rhestr Gwgl. Mae hyn yn hwb aruthrol iddynt o ran marchnata. Gall y grwpiau potensial gynnwys Clybiau'r Ffermwyr Ifanc, Merched y Wawr, Cyngorau bro a thref, cwmniau masnachol, colegau a chymdeithau megis Papurau Bro. Rydym eisioes wedi hyfforddi staff Cancer Research.

Byddai'r Hyfforddwyr newydd hyn yn cael ei gyflogi gan WikimediaUK neu gymdeithas Wicipedia Cymru, drwy nawdd ariannol ac yn ymweld â'r grwpiau hyn am gyfnod o flwyddyn. Gogledd Cymru neu'r de; pe bai'r prosiect hwn yn llwyddiannus yna byddai cais arall yn cael ei wneud am Hyfforddwr yn y rhanbarth arall (gogledd / de).

Mae hyn ar y gweill o dan gochl GeoVation mewn cydweithrediad a'r OS.

5. Ymgyrch hysbysebu / marchnata

Awgrymir creu nwyddau marchnata i'w rhyddhau am ddim yn yr Eisteddfod Genedlaethol, golygathons a chyfarfodydd WiciPedia. Gweler drafft o hysbyseb [[1]]. Danfonwyd llythyrau i bob Papur Bro. Mae Wikipedia'n cael ei weld fel corff Saesneg/ig gan lawer; mae angen ymgyrch i Gymreigio'r ddelwedd, a chryfhau'r teimlad fod Wicipedia'n perthyn i bobol Cymru ac i Gymry Cymraeg. Defnyddiwr:Llywelyn2000

Gweithredu: Ym mis Mai 2012 ymddangosodd llythyr gan ddau o Wicipedia Cymraeg mewn sawl Papur Bro. Fe'i danfonwyd gan WMUK at 57 ohonynt.
Gweithredu: I hwyluso'r "fynediad" i Wicipedia, mae Llywelyn / WMUK wedi trefnu URL hwylus a chofiadwy i'r Hafan, sef: http://wicipediacymraeg.org.
Mae'r URL, bellach, wedi'i fabwysiadu gan Wikimedia Foundation.
 Cwblhawyd
Taflenni am y Wici Cymraeg i'w dosbarthu drwy'r Papurau Bro a'r Eisteddfod.
Baner pop-up: argraffwyd baner dwy fetr ac fe'i defnyddiwyd yn gyntaf yn yr Eisteddfod. Ar y faner roedd y geiriau: Wicipedia: Byd o wybodaeth a'r URL wicipediacymraeg.org.
Ar y gweill.
Newydd wneud cais ar ran y Wicipedia i ennill gwerth blwyddyn o hysbysebu ar lleol.net. Crosewch eich bysedd.--Ben Bore (sgwrs) 12:37, 14 Mehefin 2012 (UTC)[ateb]
Hefyd, wedi sicrhau gyda threfnydd seminar Cymraeg, Technoleg & Chyfryngau Digidol gan Lywodraeth Cymru ar 21.6.12, y bydd taflen yn hysbysebu Golygathon Caerdydd 2012 ym mhecyn pob mynychwr.--Ben Bore (sgwrs) 12:37, 14 Mehefin 2012 (UTC)[ateb]
Rho wybod gynted fedri di sawl taflen sydd i'w hargraffu. Llywelyn2000 (sgwrs) 15:47, 14 Mehefin 2012 (UTC)[ateb]
Mae'r boi siaradais i a fi ar y ffon am eu hargraffu drostan ni, chwarae teg iddo. Mawr yw ein dyled!--Ben Bore (sgwrs) 14:45, 15 Mehefin 2012 (UTC)[ateb]

Mae'r drafodaeth hon yn parhau ar Wicipedia:Marchnata.

Codi proffil

Mewn cyfarfod yn Awst gyda Leyton Andrews, y Gweinidog dros Addysg a Sgiliau (a'r Gymraeg!), gwahoddwydd Llywelyn2000 i fod yn aelod o Bwyllgor Technoleg a Chyfryngau Digidol y Llywodraeth. Llywelyn2000 (sgwrs) 22:29, 9 Gorffennaf 2012 (UTC)[ateb]


6. yr Eisteddfod Genedlaethol

Rhanwyd pabell gyda Hacio'r Iaith yn yr Eisteddfod; y teimlad cyffredinol oedd fod y bartneriaeth hon wedi bod yn llwyddiannus iawn.

Gweithredu: Cwbwlhawyd a chafwyd partneriaeth ffrwythlon, ble ceir sylwadau ar y gweithgareddau.
Roedd Leighton Andrews heddiw'n argymell ein bod yn closio at Hacio'r Iaith ac yn dweud eu bont yn gwybod eu stwff cystal ag unrhyw gorff arall. Partneriaeth dda, felly! Llywelyn2000 (sgwrs) 22:29, 9 Gorffennaf 2012 (UTC)[ateb]

7. Creu GLAM yn un o amgueddfeydd Cymru

GLAM ydy Galleries, Libraries, Archives, Museums, sy'n un o adrannau WikimediaUK. Gweler yma. Yr un amlwg i'w ddewis ydy Sain Ffagan, wrth gwrs, gan ei fod yn gwbwl unigryw; neu beth am amgueddfa megis Derby sydd y tu allan i Gymru? Agor trafodaethau gydag Amgueddfeydd Cymru. Mewn partneriaeth gyda'r grwp Wiki-en Cymru? Gweithredu: Cysylltiad wedi'i wneud; cyfarfod cyn hir.

Gweithredu: Cyfarfu Llywelyn2000 â Dr Beth Thomas yn Awst (gweler uchod) i edrych a oedd yna dir cyffredin rhyngom. Nododd fod rhyddhau ffotograffau a sain ayb yn medru bod yn anodd iawn - bod un teulu yn ystod y deugain mlynedd diwetha wedi cwyno gan i Sain Ffagan gyhoeddi ffotograff heb eu caniatâd. Fodd bynnag, nododd nad oedd dim perygl mewn rhyddhau ffeiliau sain e.e. caneuon gwerin ac edrych ar y posibilrwydd o QRcodio gwybodaeth, adeiladau a gwrthrychau a'u dolennu i erthyglau WP Cymraeg. Awgrymodd eu bônt yn didoli'r ffeiliau i gategoriau ac yn trafod y rhai "saff" mewn cyfarfod arall. Llywelyn2000 (sgwrs) 22:29, 9 Gorffennaf 2012 (UTC)[ateb]
Gweithredu Penodwyd Llywelyn2000 ar brif bwyllgor GLAM Wikimedia UK, er mwyn hwyluso datblygiadau ar Wicipedia Cymraeg.

Sylwadau yma os gwelwch yn dda

Nodwch eich sylwadau isod os gwelwch yn dda, er mwyn cadw'r Cynllun (uchod) gyda'i gilydd.

1. Ffôn Cymraeg

Gwych. Wnei di arwain hwn? Os y gwnei, mi rof rifau ffôn y ddau uchod, rhag ofn eich bod angen cymorth. Byddai i Wicipedia Cy fod wedi creu ffôn yn sgwp / PR gwych. Llywelyn2000 (sgwrs) 21:53, 23 Ebrill 2012 (UTC)[ateb]
Rydw i'n hoffi'r syniad. Deb (sgwrs) 12:04, 24 Ebrill 2012 (UTC)[ateb]
Trafodaeth neithiwr efo criw Hacio'r Iaith: sgwrs am holi Canolfan Bedwyr. Llywelyn2000 (sgwrs) 06:56, 25 Ebrill 2012 (UTC)[ateb]
Hoffi syniad o ffon Cymraeg. 19:43, 27 Ebrill 2012‎ 86.133.62.179
Cytuno gyda'r syniadau i gyd - amdani! 20:30 29 Ebrill 2012 YGraigArw
Hen, hen bryd! '''Defnyddiwr:John Jones''' (sgwrs) 19:50, 3 Mai 2012 (UTC)[ateb]
Cytuno efo pob un. Pen rwdan (sgwrs) 08:04, 28 Mai 2012 (UTC)[ateb]

2. Polisi rhyddhau ffeiliau'r Cynulliad

Bwysig cael polisi rhyddhau ffeiliau'r Cynulliad. 19:43, 27 Ebrill 2012‎ 86.133.62.179
Cytuno gyda'r syniadau i gyd - amdani! 20:30 29 Ebrill 2012 YGraigArw
Cytuno. Gwarthus yw bod llywodraeth yr Unol Daleithiau yn unigryw trwy ryddhau ei holl weithiau i'r parth cyhoeddus tra bo gwledydd eraill (gan gynnwys y DU a Chymru) yn hawlio, yn ein hachos ni "hawlfraint y Goron", dros eu cynnwys (hyd yn oed logos ein llywodraeth a deddfwrfa etholedig!). —Adam (sgwrscyfraniadau) 21:50, 29 Ebrill 2012 (UTC)[ateb]
Cytuno. I agree. '''Defnyddiwr:John Jones''' (sgwrs) 19:50, 3 Mai 2012 (UTC)[ateb]

S4C

Falle gellir ceisio darbwyllo S4C bod unrhyw gomisynnu ar gyfer rhaglenni ffeithiol yn ymrwymo'r cwmni cynhrychu i ryddau unrhyw gynnwys arlein o dan drwydded CC.--Ben Bore (sgwrs) 20:42, 23 Ebrill 2012 (UTC)[ateb]

S4C: Syniad gwych. Mi ychwanegai nhw at y rhestr. Llywelyn2000 (sgwrs) 21:53, 23 Ebrill 2012 (UTC)[ateb]
Dw i wedi cael sgwrs amnffurfiol gyda [Chydlynydd Cynnwys Digidol S4C], sy'n swnio'n reit gefnogol i egwyddor y peth, ac yn gwel sut y gallai fod o fantais iddynt. Mae ychydig o ddryswch ynglyn a phwy sy pia hawlfraint ar bethau (eg delweddau, clipiau promo ayyb), unai S4C neu'r cwmniau cynhyrchu (ond gyda un yn meddwl mai gan y lall mae'r hawlfriant, nid fel arall!). Un awgrym ganddo oedd y byddai S4C yn y dyfodol yn cyflwyno detholiad o gynnwys (eto, man bethau fel delweddau promo a chlipai promo) i'r parth cyhoeddus. Gadewais y boi yn anelu am ystafell yr adran gyfreithiol! --Ben Bore (sgwrs) 18:47, 11 Gorffennaf 2012 (UTC)[ateb]
Unrhyw symudiad efo S4C? Llywelyn2000 (sgwrs) 19:54, 31 Gorffennaf 2012 (UTC)[ateb]

Gwyddoniadur Cymraeg yr Academi

Rydym mewn trafodaethau gyda Lleucu Siencyn ynghylch y posibilrwydd o gynnwys y Gwyddoniadur ar Wicipedia. Llywelyn2000 (sgwrs) 19:54, 31 Gorffennaf 2012 (UTC)[ateb]

Y Bywgraffiadur Ar-lein

Rydym mewn trafodaethau gyda'r Cymrydolion ynglyn a'r posibilrwydd o gynnwys holl destun y Bywgraffiadur ar Wicipedia. Llywelyn2000 (sgwrs) 19:54, 31 Gorffennaf 2012 (UTC)[ateb]

3. Wicipediwr Preswyl

  • Byddai hyn yn gret, ond os na ellir cyflawn hyn, falle gall golygwyr ddewis amgueddfa neu ganolfan dreftadaeth lleol (Amgueedfa Gwynedd ym Mangor, Cae'r Gors, Carchar Rhuthun ayyb) a gwrifoddoli fel Wicipedwr Preswyl. Byddai angen i'r sefydliad fo dyn gefnogol a falle byddai Wikimedia Uk yn gallu darparu offer a hyfforddiant.--Ben Bore (sgwrs) 20:42, 23 Ebrill 2012 (UTC)[ateb]
O ran arian, mae na £2,000 i'w gael rwan, ond byddai'n rhaid i'r LLGC gytuno i fynd punt-am-bunt. Llywelyn2000 (sgwrs) 21:53, 23 Ebrill 2012 (UTC)[ateb]
Syniad da. 19:43, 27 Ebrill 2012‎ 86.133.62.179
Cytuno gyda'r syniadau i gyd - amdani! 20:30 29 Ebrill 2012 YGraigArw
Swydd i Lyfrgellydd, mae'n debyg. Gwych iawn. '''Defnyddiwr:John Jones''' (sgwrs) 19:50, 3 Mai 2012 (UTC)[ateb]
Yn cefnogi. Lloffiwr (sgwrs) 19:17, 10 Mehefin 2012 (UTC)[ateb]

4. Creu Golygyddion newydd i Wici

  • Licio hyn, falle bod modd ffeindio arian cyfatebol i wneud y pres fynd ymhellach. Tipyn o gyllid wedi bod ar gael yn diweddar tuag at bethau digidol/treftadaeth. e.e. y rhain gan y Cynulliad. Byddai hyn hefyd (yn ogystal a pwynt 3 a 7) yn sicrhau y byddai unrhyw un a geir ei gyflogi gan Wikimedia Uk yng Nghymru yn ddwyieithog ac felly'n gallu cyfrannu at i wici cy ac en ac yn gallu mynd at grwpiau yn eu dewis iaith.--Ben Bore (sgwrs) 20:42, 23 Ebrill 2012 (UTC)[ateb]
Cytuno eto: cwbwl ddwyieithog! Ydy'r ddolen iawn gen ti yma? Mynd i adran Grantiau'r Llywodraeth mae hwn. Ta waeth, Mae angen ffindio nawdd at swm gan WMUK o efallai £5,000.
Grantiau Llywodraeth y Cynulliad ta! Yr unig un perthnasol falle ydy'r un Arloesi a Datblygu 2012/13, ble un o'r meysydd cymmwys ar gyfer cael ei ariannu ydy "Denu Diddordeb y Gymuned a Gwella’r Gwasanaeth". Y peth ydy, y llyfrgell/amgueddfa ei hun fyddai'n gorfod gwneud y cais.--Ben Bore (sgwrs) 08:10, 24 Ebrill 2012 (UTC)[ateb]
Gol. Wedi meddwl, falle bod hwn yn fwy addas ar gyfer prosiect GLAM, pwynt 7.--Ben Bore (sgwrs) 08:12, 24 Ebrill 2012 (UTC)[ateb]
Parthed y grant rwyt ti'n cyfeirio ato (CYMAL), dw i newydd siarad gyda nhw ac mae'r holl grantiau wedi mynd ar gyfer 2013! Ond mae un neu ddau o lefydd eraill i mi eu trio. Llywelyn2000 (sgwrs) 12:33, 24 Ebrill 2012 (UTC)[ateb]
Mae angen darbwyllo fwy o golygyddion newydd i Wici er mwyn darparu fwy o ffeiliau. 19:43, 27 Ebrill 2012‎ 86.133.62.179
Cytuno gyda'r syniadau i gyd - amdani! 20:30 29 Ebrill 2012 YGraigArw
Ia, gwych, does gen i ddim llawer o amser a chymaint i'w wneud! '''Defnyddiwr:John Jones''' (sgwrs) 19:50, 3 Mai 2012 (UTC)[ateb]
Yn cefnogi. Lloffiwr (sgwrs) 19:18, 10 Mehefin 2012 (UTC)[ateb]

5. Ymgyrch hysbysebu / PR

Baneri hefyd yn syniad da - i'r steddfod. Llywelyn2000 (sgwrs) 21:53, 23 Ebrill 2012 (UTC)[ateb]
Sori, do'n i ddim yn glir - hysbyseb ar-lein ar ffurf banner o'n i'n feddwl. Dw i wedi gweld rhai trawiadol ar en yn y gorffenol (ond methu ffeindio rwan). Baswn i'n osgoi cynhyrchu gormod o bethau fel baneri go iawn, nwyddau hyrwyddo (e.e. freebies) gan bod angen eu storiio, cludo a mae lot jyst yn mynd i wastraff.--Ben Bore (sgwrs) 08:04, 24 Ebrill 2012 (UTC)[ateb]
Dw i unwaith wedi gwahodd cyfraniad i wicipedia ar bwnc penodol ar Twitter. Efallai y dylid gwneud mwy o hyn Defnyddiwr:Dyfrig
Syniad da, dw i'n gwneud rhywbeth tebyg hefyd, yn enwedig pan mae pobl yn cwyno nad oes dim ar gael arlein am bwnc arbennig. Dw i hefyd wedi creu cyfrif Twitter penodol (llai na pherffaith) i hysbysu pob erthygl newydd, a hefyd dw i wedi creu blog answyddogol gyda'r bwriad o ysgogi trafodaeth am gyfranogiad at y wici a phynciau eraill ymysg pobl sy ddim fel arfer yn cyfrannu. Ond mae hyn braidd off topic, oni bai bod ni'n chwilio am gefnogaeth penodol o Wikimedia UK i gynnal y rhain - a tydan ni ddim, dw i ddim yn meddwl.--Ben Bore (sgwrs) 10:45, 24 Ebrill 2012 (UTC)[ateb]
Dyfrig: Syniad da - dw i'n cymryd dy fod yn cytuno?
Ben Bore - rargian, roeddwn wedi anghofio am Trydar! Newydd ei agor am y tro cyntaf ers i ti ei greu, dw i'n meddwl! Bril! Llywelyn2000 (sgwrs) 12:39, 24 Ebrill 2012 (UTC)[ateb]
Cytuno a be ddwedir uchod. 19:43, 27 Ebrill 2012‎ 86.133.62.179
Cytuno gyda'r syniadau i gyd - amdani! 20:30 29 Ebrill 2012 YGraigArw
Byddai hyn yn codi'r statws! Da iawn. '''Defnyddiwr:John Jones''' (sgwrs) 19:50, 3 Mai 2012 (UTC)[ateb]

6. yr Eisteddfod Genedlaethol

  • Eleni ym Mro Morgannwg, fydd gan Hacio'r Iaith ddim stondin, ond mi fydd ganddon ni ofod at ein defnydd ni gyda phwyntia pwer a wifi. Rydym ar hyn o bryd yn ceisio llenwi amserlen o weithgareddau. Byddai sesiynnau golygu Wicipedia gyda chymorth golygwyr profiadol yn ddelfrydol. Bydd y gofod ar gael 9:00 -12:00 (Sadwrn i Sadwrn, ag eithrio Mawrth a Iau) a rhwng 15:00 a 18:30 pob dydd (tan 17:30 a y Sadwrn olaf. Os oes diddordeb gan rhywun, nodwch o yma ac falle gallwn neilltuo o liaf un slot penodol.
  • Felly, falle fyddai ddim angen adonoddau ar gyfer y digwyddiad yma (blaw am arian tocyn a trafnidiaeth falle? Mae'n well gynna i beidio mynd ar ol hyn os gellir osgoi'r gwaith papur, oni baoi bod rhywun wirioneddol yn ei gweld hi'n anodd dod fel arall?).--Ben Bore (sgwrs) 20:42, 23 Ebrill 2012 (UTC)[ateb]
Ydy'r Babell am ddim i ni? Byddai WiciGyfarfod yno'n gret, hefyd. Llywelyn2000 (sgwrs) 21:53, 23 Ebrill 2012 (UTC)[ateb]
Ydy, am ddim. Byddai Wicigyfarfod yn gallu cymryd lle yna, er byddai'n werth trefnu rywbeth bach mwy ymarferol gan bod wifi yn cael ei ddarparu am y tro cyntaf eleni. Os bydd slotiau amser rhydd i drefnu wicigyfarfod a sesiwn golygu, gelli'r amserlennu'r ddau, os ddim, gellir unai trenu'r wicigyfarfod yn rhywle arall (wrth y bar, mewn tafarn ayyb), neu ei drefnu ar gyfer un o'r slotiau rhydd/agored ble mae croeso i unrhyw un droi fyny i wneud beth a fynnon (o fewn rheswm!). Bydd gwell syniad gyda fi ar ol cyfarod Skype heno (24.4.12) i drafod gofod Hacio'r Iaith a cheisio llunio amserlen. Mae croeso i unrhyw un ymuno gyda'r cyfarfod dros Skype gyda llaw. --Ben Bore (sgwrs) 11:02, 24 Ebrill 2012 (UTC)[ateb]
Rydw i'n byw mewn pellter cerdded - but will I be thrown off the field for speaking English? I will not be able to converse properly with visitors. Deb (sgwrs) 12:02, 24 Ebrill 2012 (UTC)[ateb]
What you've done for Wici-cy is absolutely brilliant stuff: year after year! You are forgiven! And there'll be someone with you yn siarad Cymraeg! Llywelyn2000 (sgwrs) 12:35, 24 Ebrill 2012 (UTC)[ateb]
No one gets thrown out for speaking English (but I'm sure you're only joking!). Ideally, everything on the Eisteddfod Maes should take place through the medium of Welsh. If you've been to an Eisteddfod in the past, quite a few organisations have stalls which are manned by those with very little or no Welsh at all. If we were to hold editing sessions and you happen to be free and on the Maes, I'm sure no-one would refuse your assistance while editing and therefore improving a valuable Welsh language resource like the Wicipedia. I take it you do understand some Welsh to making such a contribution here, although I understand reading at your own speed is differnet to conversing in Welsh. As a Welsh tutor, I say "practise makes perfect" a "Paid a bod yn swil"! But if you're not confident at all speaking Welsh, it might still be valuable having you there - I or someone else would lead the session, then we could offer one-to-one assistance for users, and I'm sure there would be a role for you, as we all have differnet strengths and knowledge when it comes to editing. If anyone had a problem with that, well too bad, they're not in-keeping with the spirit of Wicipedia or in creating a welcoming atmosphere for newcomers to the language in general. There, I've said my piece, getting off my soapbox now. --Ben Bore (sgwrs) 12:43, 24 Ebrill 2012 (UTC)[ateb]
Gol. Llywelyn managed to say the same thing, but in less words!--Ben Bore (sgwrs) 12:43, 24 Ebrill 2012 (UTC)[ateb]
Diolch! Deb (sgwrs) 17:20, 24 Ebrill 2012 (UTC)[ateb]
Dw i'n hoffi'r syniad 'ma a fyddai'n shwr o fod yna ar ryw bwynt, ond ddim yn rhy shwr o ba ddyddiau eto (dw i'n byw yn Trelluest, Caerdydd, felly ddim yn rhy bell!) Llewpart (sgwrs) 19:15, 24 Ebrill 2012 (UTC)[ateb]
Bendigedig! Cawsom drafodaeth neithiwr efo criw Hacio'r Iaith: diddorol iawn! Cysyllta efo Defnyddiwr:Ben Bore os wyt ti ar gael. Llywelyn2000 (sgwrs) 06:58, 25 Ebrill 2012 (UTC)[ateb]
Cytuno fod lle i bawb sydd yn siarad Cymraeg a Saesneg ar faes yr Eisteddfod. 19:43, 27 Ebrill 2012‎ 86.133.62.179
Cytuno gyda'r syniadau i gyd - amdani! 20:30 29 Ebrill 2012 YGraigArw
Fedra i ddim mynd eleni ond dwi'n meddwl fod hyn yn beth da. '''Defnyddiwr:John Jones''' (sgwrs) 19:50, 3 Mai 2012 (UTC)[ateb]
Yn cefnogi, ac yn gobeithio gallu dod i'r Eisteddfod eleni am ddiwrnod. Bydd yn braf cael cwrdd a Wicipedwyr ac a darpar Wicipedwyr. Lloffiwr (sgwrs) 19:24, 10 Mehefin 2012 (UTC)[ateb]

7. Creu GLAM: un o amgueddfeydd Cymru

Sain Ffagan? Dydw i ddim yn gwybod llawer am GLAMs, ond does na ddim llawer am Sain Ffagan ar y we. '''Defnyddiwr:John Jones''' (sgwrs) 19:50, 3 Mai 2012 (UTC)[ateb]

Sylwadau cyffredinol

5-7 pythefnos; y gweddill: ddim amser penodol, ond gorau po gynted.
OK, ar gyfer pwynt 5, os ydym yn llwyddo i drefnu rhywbeth ar gyfer y Steddfod, ac os ydy pawb yn hapus, beth am yrru *rhai* dolenni o hysbysebion Golwg360 at fanylion gweithdai golygu Wicipedia'r Steddfod (unai yma neu ar wefan Hacio'r Iaith). Bydd trefnu rhywbeth GLAM mewn pythefnos yn her. --Ben Bore (sgwrs) 08:21, 24 Ebrill 2012 (UTC)[ateb]
Ffôn a Golwg: oes
Oes a nagoes. Mae arian ar gael os symudwn yn sydyn e.e. Pwynt 1. £1,000 Pwynt 2. Costau Pwynt 3. 2 x £2,000 Pwyntiau 4-6 £10,000 Pwynt 7. GLAM: Dw i ddim yn siwr; mae na waith gosod hwn i fyny a delio efo WMUK ar yr amser.Llywelyn2000 (sgwrs) 21:53, 23 Ebrill 2012 (UTC)[ateb]
Pob lwc cael yr arain. 19:43, 27 Ebrill 2012‎ 86.133.62.179
Pob un yn wych! I have agreed with all the above points. '''Defnyddiwr:John Jones''' (sgwrs) 19:50, 3 Mai 2012 (UTC)[ateb]

A resume in English

This page was locked on 15 September 2012, but you may leave comments on the Talk page. The above is a Development Plan for Wicipedia-cy for the period 2012-13. It is a wish-list of what may be possible in the near future, but is dependable on funding. They are:
1. Liaise with the Welsh Government (directly and through Digital Wales to create a new Welsh smart-phone.
2. Licencing files under Creative Commons CC-BY-SA - files from Welsh Assembly public bodies e.g. county archives, Cadw, People’s Collection and The Royal Commission on the Ancient and Historical Monuments of Wales. Also: Encyclopaedia Wales.
3. Wikipedian-in-residence at the National Library (Aberystwyth).
4. Creat new editors. Creat posts to work with groups such as associations, colleges, schools, councils etc to teach the skills needed to create Wikipedian articles.
5. PR and advertising.
6. Stall at the Vale of Glanmorgan Eisteddfod etc in partnership with Hacio'r Iaith. Prepare "Wicipedia Cymraeg" banners.
7. Welsh GLAM: GLAMorgan??? To open discussions with the Museum of Wales re a possible GLAM at Sain Ffagan or other. We have also opened discussions with Cymal.