Whistler, British Columbia
Tref cyrchfan yn Pacific Ranges deheuol y Coast Mountains yn nhalaith British Columbia, Canada yw Whistler, a leolir tua 125 cilomedr i'r gogledd o Vancouver. Caidd ei gorffori fel Resort Municipality of Whistler (RMOW), ac mae ganddi boblogaeth barhaol o 9,965, yn ogystal â phoblogaeth fwy o weithwyr sy'n mynd a dod, fel arfer pobl ifan o British Columbia, ond hefyd o Awstralia ac Ewrop.
Mae dros dwy miliwn o bobl yn ymweld â Whistler pob blwyddyn, yn bennaf ar gyfer sgio alpaidd a beicio mynydd yn Whistler-Blackcomb. Mae'r pentref sydd wedi ei gynllunio ar gyfer cerddwyr wedi ennill nifer o wobrau dylunio ac mae Whistler wedi cael ei hethol yn un o brif gyrchfannau Gogledd America gan y prif gylchgronau sgio ers canol yr 1990au. Mae Whistler yn gwesteio'r cystadleuaethau sgio Llychlynnaidd, luge, ysgerbwd, a bobsled ar gyfer Gemau Olympaidd y Gaeaf 2010.