Wesley Snipes

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Wesley Snipes

Mae Wesley Trent Snipes (ganed 31 Gorffennaf, 1962) yn actor, cynhyrchydd ac yn grefftiwr ymladd Americanaidd. Mae ef wedi serennu mewn ffilmiau antur a chyffro, ond mae'n fwyaf adnabyddus am chwarae rhan Blade yn y dair ffilm Blade. Ym 1991, sefydlodd gwmni cynhyrchu o'r enw Amen Ra Films ac is-gwmni, Black Dot Media, er mwyn datblygu prosiectau ffilm a theledu. Mae Snipes wedi bod yn hyfforddi mewn crefft ymladd ers pan oedd yn ddeuddeg mlwydd oed, gan gyrraedd safle pumed dan gwregys ddu yn karate Shotokan.

Yn 2008, cafwyd Snipes yn euog o dair trosedd o beidio dychwelyd anfonebau treth incwm ac ar y 24ain o Ebrill, fe'i ddedfrydwyd i dair blynedd o garchar.[1] Ar yr 22ain o Fai, penderfynodd y llys y gallai Snipes barhau i fod yn rhydd tra bod ei apel yn cael ei ystyried.[2].

Dolenni Allanol[golygu]

Cyfeiriadau[golygu]