Wendy Richard
Oddi ar Wicipedia
Actores Seisnig oedd Wendy Richard (ganwyd Wendy Emerton; 20 Gorffennaf 1943 - 26 Chwefror 2009). Roedd hi'n fwyaf adnabyddus am chwarae rhan Miss Shirley Brahms yn y gyfres gomedi Are You Being Served? a'i rôl fel Pauline Fowler yn yr opera sebon EastEnders. Derbyniodd ei haddysg yn Ysgol Gynradd St. George yn Mount Street, cyn mynychu'r Ysgol Frenhinol Masonaidd i Ferched yn Rickmansworth, Swydd Hertford. Yna aeth i Academi Ddrama Italia Conti yn Llundain.
Cafodd ei geni ym Middlesbrough, Lloegr. Priododd John Burns yn 2008. Bu farw mewn Clinig ar Harley Street ar y 26ain o Chwefror, 2009 lle bu'n derbyn triniaeth am gancr y fron.
Teledu [golygu]
- Stranger on the Shore (1961)
- No Hiding Place (1964-64)
- The Newcomers (1965-69)
- Dad's Army
- Up Pompeii!
- Are You Being Served?
- Grace and Favour (1992)
- EastEnders
Ffilmiau [golygu]
- No Blade of Grass (1970)
- Carry On Matron (1972)
- Are You Being Served? (1977)