Welsh Whisperer

Oddi ar Wicipedia
Welsh Whisperer
Ganwyd22 Medi 1987 Edit this on Wikidata
Caerfyrddin Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethdigrifwr, canwr, cyflwynydd radio Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.welshwhisperer.cymru/ Edit this on Wikidata

Diddanwr canu gwlad â chomedi a chyflwynydd radio a theledu o bentref Cwmfelin Mynach, Sir Gaerfyrddin ydy'r Welsh Whisperer, cymeriad, diddanwr a chanwr cefn gwlad (ganwyd 22 Medi 1987). Mae'n adnabyddus am ei ganeuon canu gwlad gwerinol ond mae hefyd wedi arbrofi gyda chaneuon gwerin a phop â chomedi ynddynt hefyd.

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Ganwyd Andrew Walton yn ysbyty Glangwili, Caerfyrddin. Mynychodd Ysgol Gynradd Cwmbach ac Ysgol Gyfun Bro Myrddin yn Sir Gaerfyrddin.[1] Magwyd ym mhentref Cwmfelin Mynach lle aeth i'r ysgol Sul dan ofal Capel Ramoth.[2]

Symudodd ei rieni i Gymru o Loegr ym 1984 ac mae ei fam wedi dysgu Cymraeg yn rhugl, a'i dad bellach yn dysgu'r iaith.

Aeth i fyw yn Sheffield, Lloegr yn 2006 ond daeth yn ôl i Gymru yn 2014. Mae'n byw yn Methesda.

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Dechreuodd ei yrfa perfformio yn 2014 pan welodd y cynhyrchydd Gruff Meredith (MC Mabon) fideo ohono ar youtube. Cynigodd Gruff cytundeb recordio albwm ar label Tarw Du. Rhyddhawyd yr albwm Plannu Hedyn Cariad yn 2014.

Daeth ei sioeau byw i boblogrwydd yng nghefn gwlad Cymru gyda chaneuon doniol am bethau fel peiriannau, lorïau, cwrw, bara brith a bywyd amaeth.[3]

Yn 2016 cynigodd cwmni recordio Fflach cytundeb recordio ar y cyd gyda Tarw Du. Recordwyd gyda band llawn yn stiwdio Fflach Aberteifi, Ceredigion a rhyddhawyd 'Y Dyn o Gwmfelin Mynach' yn 2016.

Welsh Whisperer ym Mhentir, Gwynedd

Dechreuodd ei yrfa radio yn 2017 pan lawnsiwyd BBC Radio Cymru MWY, mae bellach wedi cyflwyno sawl cyfres ar BBC Radio Cymru yn chwarae cymysgedd o ganu gwlad, gwerin a phop o Gymru ac Iwerddon.

Perfformiodd y Welsh Whisperer 54 sioe yn 2017 yn cynnwys ymmdangosiadau ar raglenni teledu fel Heno, Noson Lawen, Ffermio a llawer mwy ar S4C. Mae hefyd wedi cyflwyno cyfres 'tafarn yr wythnos' ar Heno lle mae'n ymweld â thafarn gwhanol i gyfarfod bobl leol a pherfformio cân.

Aeth hwn i 75 yn 2018 ac mae wedi ei nodi bod lleoliadau fel gwestai a neuaddau cefn gwlad sydd ddim wedi cael defnydd am amser hir bellach yn gartref i nosweithiau gyda'r Welsh Whisperer ar draws y wlad.

Rhyddhawyd albym arall ar labeli Fflach a Tarw Du ym Mhontrhydfendigaid, Ceredigion yn 2017 o'r enw 'Dyn y Diesel Coch'. Curodd y CD yma record gwerthiant unrhyw artist ar label Fflach mewn un noson erioed.

Yn 2019 sefydlwyd cwmni recordio a chyhoeddi'r Welsh Whisperer 'Recordiau Hambon Records' er mwyn cael reolaeth lawn o ochr masnachol y Welsh Whisperer. Mae Recordiau Hambon yn cydweithio gyda labeli a dosbarthwyr yn Iwerddon i geisio pontio rhwng y ddwy sîn adloniant canu gwlad yna.

Mae gyrfa teledu wedi datblygu yn raddol ers 2016, mae'r Welsh Whisperer bellach wedi ymddangos ar sawl eitem Hansh, wedi cystadlu ar Fferm Ffactor a chael ei alw'n 'Calvin Harris ffermwyr Cymru[4]', ac wedi cyflwyno cyfres 'Tafarn yr Wythnos ar raglen Heno ar S4C.

Ymddangosodd ar bennod Pobol y Cwm yn 2018.[5]

Erbyn heddiw mae'r Welsh Whisperer yn cael ei adnabod fel un o artistiaid prysuraf yn y sîn cerddoriaeth Cymraeg.

Disgyddiaeth[golygu | golygu cod]

Tynnu lluniau ar gyfer clawr 'Dyn y Diesel Coch'

Albymau[golygu | golygu cod]

  • Plannu Hedyn Cariad (2014, Tarw Du)
  • Y Dyn O Gwmfelin Mynach (2016, Tarw Du / Fflach)
  • Dyn y Diesel Coch (2017, Tarw Du / Fflach)
  • Cadw'r Slac yn Dynn (2019, Recordiau Hambon)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. https://golwg360.cymru/newyddion/cymru/247793-welsh-whisperer-ac-elan-evans-i-barhau-ar-radio-cymru
  2. Pwy yw'r Welsh Whisperer? , BBC Cymru Fyw, 13 Medi 2019.
  3. https://golwg360.cymru/celfyddydau/cerddoriaeth/152769-welsh-whisperer-yn-dychwelyd-ag-albwm-newydd
  4. ""Calvin Harris ffermwyr Cymru" yn barod am Fferm Ffactor Selebs". Golwg360. 2019-03-16. Cyrchwyd 2019-08-22.
  5. https://twitter.com/pobolycwm/status/1016732057542721536

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]