Watcyn Wyn
Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Watkin Hezekiah Williams)
Pregethwr, bardd, nofelydd, emynydd ac ysgolfeistr enwog iawn yn ei ddydd oedd Watcyn Wyn, enw llawn Watkin Hezekiah Williams (1844 - 1905), a aned ger Brynaman yn Sir Gaerfyrddin. Glowr oedd ar ôl gadael ysgol yn gynnar, ond fe aeth ati i addysgu ei hun.
Sefydlodd ysgol, sef Ysgol y Gwynfryn, Rhydaman a roddodd gyfle i nifer fawr o fechgyn fedru mynd i'r weinidogaeth.
Roedd Watcyn Wyn yn eisteddfodwr brwd ac yn adnabod nifer o ffigyrau mawr yr oes. Er nad oes llawer o werth parhaol i'r rhan fwyaf o'i gerddi, ysgrifennodd hunangofiant - Adgofion Watcyn Wyn - sy'n cynnwys adrannau am ei blentyndod a llencyndod yn ardal Brynaman.
Ar y cyd ag Elwyn Thomas ysgrifennodd ddwy nodel ramantaidd yn ogystal.
Llyfryddiaeth [golygu]
Llyfrau Watcyn Wyn [golygu]
- Caneuon (1871)
- Hwyr Ddifyrion (1883)
- Cân a Thelyn (1895)
- (gyda Elwyn Thomas) Nansi merch y pregethwr dall (1906)
- (gyda Elwyn Thomas) Irfon Meredydd (1907)
- Adgofion Watcyn Wyn, golygwyd gan Gwili (Y Cwmni Cyhoeddiadol Addysgol, Merthyr Tudful, 1907)
Llyfrau amdano [golygu]
- Bryan Martin Davies, Rwy'n gweld o bell (1980). Astudiaeth.
- Pennar Griffiths, Cofiant Watcyn Wyn (1915)