Waterloo (pentref)

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Pentref bychan ym mwrdeisdref sirol Caerffili yw Waterloo. Saif yng nghymuned Rhydri, i'r dwyrain o dref Caerffili.

Ar un adeg roedd gwaith tunplat mawr yma, oedd yn gwneud offer ar gyfer awyrennau, yn arbrennig i'r gwaith awyrennau a arferai fod yn Machen. Caeodd y gwaith tunplat tua 1943. Roedd hefyd waith paent mawr Coates Brothers, a gaeodd yn y 1990au, a phwll glo.