Warren Christopher
Oddi ar Wicipedia
Cyfreithiwr a diplomydd Americanaidd oedd Warren Minor Christopher (27 Hydref 1925 - 18 Mawrth 2011).
Ysgrifennydd Gwladol yr Unol Daleithiau rhwng 20 Ionawr 1993 a 17 Ionawr 1997 oedd ef.
Cafodd ei eni yn Scranton, North Dakota. Sefydlydd a llywydd y Stanford Law Review oedd ef. Bu farw yn Los Angeles, Califfornia.