Walsall Wood

Oddi ar Wicipedia
Walsall Wood
Mathpentref Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolBwrdeistref Fetropolitan Walsall
Daearyddiaeth
SirGorllewin Canolbarth Lloegr
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau52.627661°N 1.9301°W Edit this on Wikidata
Cod OSSK049033 Edit this on Wikidata
Map

Pentref yn sir Gorllewin Canolbarth Lloegr, yn rhanbarth Gorllewin Canolbarth Lloegr, yw Walsall Wood.[1] Fe'i lleolir mewn ardal di-blwyf ym mwrdeistref fetropolitan Walsall. Saif ar briffordd A461 tua 4 milltir i'r gogledd-ddwyrain o dref Walsall, a thua 5 milltir i dde-orllewin o Gaerlwytgoed.

Y diwydiannau cynnar oedd gwneud brics a chwarela calchfaen. Ehangodd y pentref yn gyflym ar ôl agor pwll glo Walsall Wood yn 1874. Caeodd y pwll glo yn 1964. Roedd gan y pentref boblogaeth o 12,874 yn ystod cyfrifiad 2001. Mae rhan fawr o'r boblogaeth yn gymudwyr i Birmingham a'r Wlad Ddu.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. British Place Names; adalwyd 1 Tachwedd 2022
Eginyn erthygl sydd uchod am Gorllewin Canolbarth Lloegr. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.