Walid Jumblatt

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Walid Jumblatt

Arweinydd presennol y Blaid Sosialaidd Flaengar (PSF/y BSF) yn Libanus ac arweinydd amlycaf y gymuned Druz (Druze), gymuned grefyddol sy'n tarddu o Islam Shia ac sy'n cynrychioli 10% o boblogaeth Libanus, yw Walid Jumblatt (Arabeg: وليد جنبلاط‎‎) (ganed 7 Awst, 1949). Mae'n un o'r gwleidyddion gwrth-Syriaidd amlycaf yn Libanus ac mae mewn cynghrair gyda Cynghrair 14 Mawrth, clymblaid sy'n cynnwys y Courant du Futur (Mudiad y Dyfodol), y Forces libanaises (Lebanese Forces) a Cymanfa Qornet Chehwan. Mae'n Aelod o Senedd Libanus.

Mae Jumblatt yn bennaeth y tylwyth Jumblatt, teulu estynedig o dras Cyrdaidd sy'n hannu o Aleppo. Mae'n fab i'r gwleidydd Kamal Jumblatt, cyn-arweinydd y BSF, plaid Walid Jumblatt, a guddlofruddwyd. Y tylwyth Jumblatt yw'r mwyaf pwerus o dylwythau'r Druziaid ac mae Walid Jumblatt wedi defnyddio ei safle yn y gymuned Druz fel sylfaen ei rym yn y BSF, sy'n blaid i'r chwith o'r canol. Mae'n cael ei ystyried yn dipyn o faferic gwleidyddol gyda buddianau y gymuned Druz yn flaenoriaeth. Hyd at 2000, pan guddlofruddwyd y gwleidydd Hafez al-Assad, bu'n gefnogol i Syria yn Libanus, ond ers hynny mae'n galw ar i Damascus ildio ei goruchafiaeth ar faterion y wlad. Mae'n gwrthwynebu dylanwad Hezbollah hefyd.

Gyda milisia Druz sylweddol yn gefn iddo, mae Jumblatt yn byw ym mhentref Mukhtara ar lethrau Mynydd Libanus, prif ardal y Druz yn Libanus.

Dolenni allanol[golygu]


Flag of Lebanon.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Libanus. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.