Wadi Ara, Haifa

Oddi ar Wicipedia
Wadi Ara, Haifa
Enghraifft o'r canlynolanheddiad dynol Edit this on Wikidata
Map
RhanbarthHaifa Subdistrict Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Hen dŷ Arabiadd yn Wadi Ara, sydd bellach wedi ei feddiannu gan Israeliaid ac yn rhan o gibwts

Pentref Palesteinaidd wedi ei leoli 38.5 km i'r de o ddinas Haifa oedd Wadi Ara (Arabeg: وادي عارة). Caiff ei enw o ffrwd ar ei gyfyl, Wadi 'Ara. Roedd yn bentref gweddol fychan, gyda phoblogaeth o 230 (1945). Diboblogwyd y pentref 27 Chwefror 1948.[1]

Rhyfel 1948 a'i adladd[golygu | golygu cod]

Yn ystod Rhyfel 1948 amddiffynwyd y pentref yn llwyddiannus gan luoedd Arabaidd, gan gynnwys lluoedd o Iraq. Trosglwyddwyd y tir a amddiffynwyd gan luoedd Byddin Iraq ym Mhalesteina i Wlad Iorddonen. Ar arch Abdullah I, brenin Iorddonen ildiwyd y tir hwnnw i Wladwriaeth Israel Mai 3, 1949.

Yn 1992 fel hyn y dywedodd yr hanesydd Palesteinaidd Walid Khalidi am yr hyn sy'n weddill o'r pentref: "The site is occupied by Kibbutz Barqay. Only two village houses remain, both on the eastern edge of the site. One of them has arched windows and a spiral staircase leading up to a room on the roof. The second has a large entrance that is used today as a gate for the kibbutz's swimming pool." [2]

Flynyddoedd y rhyfel (1948-9) dioddefai'r trigolion Palesteinaidd brodorol drais o du llluoedd Israel. Datguddiwyd y wybodaeth a ganlyn i'r hanesydd o Israeliad Uri Milstein gan aelod o'r cibwts lleol, Be'eri, a oedd yn rhan o gatrawd Israelaidd fu ymladd yn yr ardal: "We were in Wadi 'Ara. We raided a nearby Palestinian post and brought a prisoner for interrogation. A soldier beheaded him and scalped his head by knife. He raised the head on a pole to strike fear among Palestinians. Nobody stopped him." [3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Morris, Benny. 2004. The Birth of the Palestinian Refugee Problem Revisited. Cambridge University Press, ISBN 978-0-521-00967-6. tt. xviii, village # 146
  2. Khalidi, Walid (1992), All That Remains: The Palestinian Villages Occupied and Depopulated by Israel in 1948, Washington D.C.: Institute for Palestine Studies, ISBN 0-88728-224-5 p. 201-202
  3. The Palestinian Nabka: Register of Depopulated Localities in Palestine, Complied by Salman Abu Sitta The Palestinian Return Centre: London, September 2000, page 18