W. H. Miller

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Crisialegydd Cymreig oedd William Hallowes Miller (1801 – 1880), a hanodd o'r Felindre ar bwys Llangadog, Sir Gaerfyrddin. Sefydlydd y gwyddoniaeth grisialau a elwir yn 'grisialegaeth'. Er iddo raddio mewn mathemateg yng Nghaergrawnt, cafodd ei benodi'n Athro adran mwynoleg y coleg yn 1832.

Mae'n cael ei gysylltu gya dwy gangen o wyddoniaeth: adnabyddwyd ei theori grisialaeth drwy'r byd fel 'System Miller', ac mae ei waith ar grisialau'n dal i enyn parch ac edmygedd hyd heddiw. Yn ail, roedd yn un o'r gwyddonwyr pwysicaf i ddylanwadu ar system mesuriadau a phwysau Senedd Lloegr yn 1834.

Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.