Voyager 1

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Voyager 1

Mae Voyager 1 yn chwiliedydd gofod. Lawnsiwyd gan NASA o'r Kennedy Space Centre, Fflorida ar 5 Medi 1977 ar berwyl i hedfan heibio'r planedau Iau a Sadwrn. Gyda chwiliedydd arall, Voyager 2, roedd Voyager 1 yn gyfrifol am dynnu'r lluniau gorau o'r planedau a'u lloerennau; darganfyddwyd llosgfynyddoedd ar Io, a gwnaethpwyd y mesuriadau mwyaf manwl o awyrgylch y lloeren Titan achos ymweliadau y ddau chwiliedydd. Ar hyn o bryd mae Voyager 1 ar ei ffordd allan o Gysawd yr Haul trwy wregys Kuiper.

Record Aur[golygu]

Cariodd y roced (fel Voyager 2 o'i blaen) record aur yn llawn o wybodaeth rhag ofn o fodau arallfydol ddod ar ei thraws. Ar y ddisg roedd lluniau o'r Ddaear, anifeiliaid, gwybodaeth gwyddonol a chyfarchion mewn amryw o ieithoedd gan gynnwys y Gymraeg: (Iechyd da i chwi yn awr, ac i'r oesoedd). Cynhwyswyd arni hefyd synau gwahanol: morfilod, plentyn yn crio, tonnau'r môr ac yn y blaen.

Gweler hefyd[golygu]