Volkswagen Transporter

Oddi ar Wicipedia
Hysbyseb yn dangos esblygiad y Transporter.

Cyfres o gerbydau gan Volkswagen AG ydy'r Volkswagen Transporter.

Cerbydau masnachol ysgafn oeddent yn wreiddiol, ond maent bellach yn cynnwys faniau, faniau-mini, bysiau-mini, tryciau pick-up a faniau gwersylla (e.e. y Volkswagen Camper) sydd wedi cael eu cynhyrchu am dros 55 mlynedd ers eu lansio yn 1950. Maent wedi bod ar gael yn fyd eang drwy bron gydol y cyfnod hwn.

Er i genhedloedd T1 i T3 gael eu henwi'n answyddogol ac yn ôl-weithredol, caiff y gyfres T ei chysidro'n blatfform swyddogol Volkswagen erbyn hyn.[1][2]

T1 – Type 2 (T1)[golygu | golygu cod]

1950–1967 — Deilliodd yn wreiddiol o'r Volkswagen Type 1 (Volkswagen Beetle), y Volkswagen Type 2 (T1) oedd y genhedlaeth gyntaf o'r teulu Transporter poblogaidd gan Volkswagen. Caent eu hadnabod yn answyddogol gan rai brwdfrydig fel "split screens" neu "splitties".

T2 – Type 2 (T2)[golygu | golygu cod]

Volkswagen Type 2 (T2b)

1968–presennol — T1 wedi cael ei uwchraddio yn weledol yw'r platfform Volkswagen T2 yn elfennol,[2] (gan mai dyma'r unig gerbyd a oedd yn rhannu'r platfform hyd hynny) gyda modur o Volkswagen Type 4 wedi bod ar gael fel opsiwn ynddi ers 1972. Adnabyddir y genhedlaeth hon yn answyddogol fel "bay", o bay window (ffenestr bae) neu "bread loaf" (torth fara) oherwydd y siap.

VW Kombi Total Flex 2010

Tanwydd-hyblyg[golygu | golygu cod]

Hyd 2010 o leiaf, mae T2 gyda modur tanwydd-hyblyg sy'n rhedeg ar gyfunid o betrol ac ethanol yn parhau i gael ei gynhyrchu ym Mrasil, caiff ei alw'n Volkswagen Kombi Total Flex.

T3 – Type 2 (T3)[golygu | golygu cod]

Volkswagen Type 2 (T3/Vanagon/T25)

1980–1991 — Cyflwynwyd y platfform T3, y Volkswagen Type 2 (T3), a adnabyddir hefyd fel y T25, (neu Vanagon yn yr Unol Daleithiau), ym 1980. Dyma oedd un o blatfformiau olaf Volkswagen i ddefnyddio modur aer-oeri. Diflanodd modur aer-oeri Volkswagen dros gyfnod wrth i ddŵr-oeri gael ei gyflwyno (ond roedd dal yn fowntiedig yn y cefn) ym 1984.

T4 – Transporter (T4)[golygu | golygu cod]

Volkswagen Transporter (T4)
Volkswagen Transporter (T4) fersion wedi'i wneud yn Taiwan

1990–2003 — Dyma'r cerbyd "T platform" cyntaf i gael ei dynodi felly'n swyddogol, cafodd cyfres y Volkswagen Transporter (T4)[1] ei diweddaru'n ddramatig gyda defnydd modur wedi ei fowntio yn y blaen, gyriant olwyn-blaen, a dŵr-oeri.

T5 – Transporter (T5)[golygu | golygu cod]

Volkswagen Transporter (T5)

2003–presennol — Y Volkswagen Transporter (T5)[1][2] yw fersiwn cyfredol y platfform Volkswagen T. Ni werthir hwn yng Ngogledd America oddieithr i Mecsico.

Cafodd y Transporter T5 ei ailddylunio mymryn yn hwyr yn 2009. Gydag opsiynau powertrain newydd yn cynnwys modur dîsl common rail, y tro cyntaf yn y byd i'r math yma gael ei ddefnyddio ar gerbyd masnachol ysgafn gyda thrawsyriant cydiwr ddeuol, sef blwch-gêr 7-cyflymder Direct-Shift Gearbox (DSG) Volkswagen.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2  Europe's slight rise & anticipated decline - Auto by the Numbers - car sales, production in Western Europe - Illustration - Statistical Data Included. Automotive Design & Production, April 2002 by Mark Fulthorpe / Gardner Publications, Inc. / Gale Group. CBS Interactive Business UK. Adalwyd ar 17 Rhagfyr 2009.
  2. 2.0 2.1 2.2  Im Fokus: Volkswagen - Kernkompetenz: Sparen. CSM Worldwide. Automobil-Produktion.de (Mawrth 2006). Adalwyd ar 17 Rhagfyr 2009.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: