Vladimir Vysotsky
Oddi ar Wicipedia
Roedd Vladimir Semyonovich Vysotsky (Rwseg :Влади́мир Семёнович Высо́цкий Vladimir Semyonovich Vysotskyj) (25 Ionawr 1938, Moscow, Yr Undeb Sofietaidd – 25 Gorffennaf 1980, Moscow, Yr Undeb Sofietaidd) yn ganwr, yn gyfansoddwr caneuon ac yn fardd. Roedd ganddo gefndir teuluol Iddewig[1] a Rwsiaidd. Er mai am ei ganeuon yr adwaenir ef fwyaf, roedd hefyd yn actor amlwg ar y llwyfan ac ar y sgrîn. Cyfeirir ato fel бард yn Rwsieg, ond nid oedd Vysotsky ei hun yn hoff o'r term gan iddo deimlo ei fod yn actor ac yn awdur yn bennaf oll[angen ffynhonnell]. Er i'r sefydliad diwylliannol Sofietaidd ei anwybyddu, daeth yn enwog, ac hyd heddiw mae ganddo ddylanwad sylweddol ar gerddorion ac actorion poblogaidd Rwsia.
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ Vladimir Vysotsky. Adalwyd ar 23 Mehefin 2010.