Vidkun Quisling

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Llun o Quisling yn Oslo, 1942

Swyddog yn y fyddin Norwyaidd a chydweithiwr â'r Natsïaid oedd Vidkun Quisling, neu Abraham Lauritz Jonsson (1887 - 1945). Mae ei gyfenw wedi tyfu'n llysenw am "fradwr" a "chachgi".

Ar ôl cyfnod yn y Weinyddiaeth Amddiffyn ffurfiodd y Blaid Undeb Genedlaethol ffasgyddol yn 1933. Anogodd a chroesawodd oresgyniad Norwy gan yr Almaenwyr yn 1940. Fel "arlywydd-weinidog" (term a ddyfeisiwyd yr adeg honno) rheolai ei wlad dan y Natsïaid yn ystod yr Ail Ryfel Byd a bu'n gyfrifol am anfon tua mil o Iddewon i'r gwersylloedd crynhoi.

Cafodd ei arestio yn 1945, ac fe'i gafwyd yn euog o droseddau rhyfel. Cafodd ei ddienyddio am 02.40 ar 24 Hydref 1945.