Victor Johnson

Oddi ar Wicipedia
Victor Johnson
Ganwyd10 Mai 1883 Edit this on Wikidata
Aston Manor Edit this on Wikidata
Bu farw23 Mehefin 1951 Edit this on Wikidata
Sutton Coldfield Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Galwedigaethseiclwr cystadleuol Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Gwlad chwaraeony Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata

Seiclwr trac Seisnig oedd Victor Louis Johnson (10 Mai 1883, Aston Manor, Swydd Warwick[1][2]23 Mehefin 1951, Sutton Coldfield[3]), a gystadlodd yng Ngemau Olympaidd 1908, yno enillodd y fedal aur yn y ras 660 llath. Cystadlodd hefyd yn y gystaleuaeth sbrint gan fynd drwodd i'r rownd derfynol, ond ni wobrwywyd unrhyw fedalau gan i'r gystadleuaeth redeg yn hirach na'r cyfyngiad amser.[4]

Yn ystod Cyfrifiad 1901, roedd Johnson yn byw yn 22 Station Road, Erdington, Swydd Warwick, rhestrwyd ei alwedigaeth fel saer coed, roedd ei dad, John T Johnson, yn wneuthurwr beiciau.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Cyfrifiad 1901 - 22 Station Road, Erdington, Swydd Warwick, RG 13/2876, Tud. 3 o 41
  2. Mynegai Genedigaethau Lloegr a Chymru, Chwarter Ebrill/Mehefin 1883, Victor Louis Johnson, ardal cofrestru Aston, Cyfrol 6d, Tud. 435
  3. Mynegai Marwolaethau Lloegr a Chymru, Chwarter Ebrill/Mehefin 1951, Victor L. Johnson, 68 oed, ardal cofrestru Sutton Coldfield, Cyfrol 9c, Tud. 923
  4. Proffil ar databaseolympics.com
Baner LloegrEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Sais neu Saesnes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.