Vic

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Y Plaza Mayor, Vic

Vic yw prifddinas comarca Osona, yn Nhalaith Barcelona, Catalonia. Saif 69 km o Barcelona a 60 km o Girona. Roedd y boblogaeth yn 2007 yn 38,321.

Sefydlwyd Vic yn y cyfnod Rhufeinig fel Ausa, a dan y Fisigothiaid fe'i gelwid yn Ausona. Dinistriwyd hi yn 788 mewn ymosodiad gan fyddin Islamaidd, ac am gyfnod, dim ond un rhan a ail-adeiladwyd. Galwyd y rhan yma yn Vicus Ausonensis. Yn ddiweddatach daeth fan reolaeth Esgob Vic.