Ventimiglia
Oddi ar Wicipedia
Dinas ar y Riviera yn rhanbarth Liguria yn yr Eidal, heb fod yn bell o'r ffin gyda Ffrainc, yw Ventimiglia. Sillafiaeth arall yw XXmiglia (XX = venti = ugain).
Mae Ventimiglia ar aber y Roya. Gellir croesi'r bont i'r hen ddinas ar ben y bryn (Città Vecchia) lle mae'r eglwys gadeiriol (11/12fed ganrif).
- Fe fydd trênau Ffrainc yn aros yng ngorsaf Ventimiglia lle gellir newid i drênau'r Eidal er mwyn dal ymlaen gyda'r daith.
- Mae marchnad fawr yn y sgwâr ger y traeth bob dydd Gwener ac fe fydd nifer fawr yn mynd yno o Ffrainc gerllaw.
- Mae gerddi Hanbury (gardd o blanhigion estron) gerllaw yn Mortola Inferiore ger y ffin gyda Ffrainc.
Dolenni allanol [golygu]
- (Eidaleg) Gwefan swyddogol y Dinas