Venedocia, Ohio

Oddi ar Wicipedia
Venedocia
Mathpentref Edit this on Wikidata
Poblogaeth140 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirVan Wert County Edit this on Wikidata
GwladBaner UDA UDA
Arwynebedd0.13 mi² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau40.7858°N 84.4567°W Edit this on Wikidata
Map
Lleoliad Venedocia yn Ohio

Pentref yn Van Wert County, Ohio, Unol Daleithiau America, yw Venedocia. Fe'i lleolir ar briffordd daleithiol 116 yng ngogledd-orllewin Ohio, tua 10 milltir i'r de-ddwyrain o ddinas Van Wert, canolfan weinyddol y sir. Mae gan y pentref arwynebedd o tua 1/4 milltir sgwar a phoblogaeth o 160 (2000). 'Venedocia' yw'r ffurf Ladin ar yr enw Gwynedd ac mae'n adlewyrchu gwreiddiau Cymreig y pentref. Mae trigolion Venedocia yn hynod o falch o fod yn Americanwyr Cymreig.

Daeth yr ymsefydlwyr cyntaf yno tua'r flwyddyn 1848 ac fe'i ymgorfforwyd fel pentref yn 1897. Ymfudwyr o Gymru, ac yn arbennig o Wynedd, oedd yr ymsefydlwyr cyntaf. Mae rhai o drigolion presennol y pentref yn dal i gofio'r adeg pan siaredid Cymraeg yn y pentref.

Eglwys Bresbyteraidd Salem oedd canolfan y gymdeithas, a godwyd dros gan mlynedd yn ôl. Sefydlwyd y gynulleidfa yn 1848. Hyd at 1895 cynhelid pob gwasanaeth yn y Gymraeg. Mae Venedocia yn dal i gynnal Cymanfa Ganu flynyddol yn y Gymraeg, traddodiad a sefydlwyd yn 1915.

Ffuglen[golygu | golygu cod]

  • Bartie Jones, Call to Cambria. Nofel am fywyd yn y pentref yn y 1970au.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]