Vauxhall Cross

Oddi ar Wicipedia
Vauxhall Cross
Mathadeilad llywodraeth Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlMI6 Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolVauxhall
Agoriad swyddogol1994 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • Ebrill 1994 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirLlundain Fwyaf
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
GerllawAfon Tafwys Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.4872°N 0.1242°W Edit this on Wikidata
Cod postSE1 7TP Edit this on Wikidata
Map
Arddull pensaernïolpensaernïaeth ôl-fodern Edit this on Wikidata
PerchnogaethLlywodraeth y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata

Pencadlys Gwasanaethau Cudd Prydain (British Secret Intelligence Service, neu MI6), yw Vauxhall Cross.[1] Saif ar lannau deheuol Afon Tafwys ym Mwrdeistref Llundain Lambeth, ac agorwyd yng Ngorffennaf 1994. Adeiladwyd gan Terry Farrell, a dylanwadwyd arno gan adeiladau fel Gorsaf Bŵer Battersea a themlau’r Maya a’r Aztec. Oherwydd bod cynifer o haenau gwahanol i’r adeilad, mae ganddo 60 to! Mae yna 25 gwahanol fath o wydr ar yr adeilad, a gwydriad triphlyg yn y ffenestri, am resymau diogelwch. Mae 5 o’r lloriau islaw lefel y dŵr, ac mae’r adeilad hefyd wedi ei amddiffyn gan ddwy ffos llawn dŵr. Gwelir Vauxhall Cross yn nifer o ffilmiau diweddar James Bond. Dangoswyd The World Is Not Enough i staff MI6 yn yr adeilad, a chymeradwyon nhw pan gafodd eu pencadlys ei ffrwydro yn y ffilm.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. National Audit Office; adalwyd 10 Ionawr 2015