Václav Havel

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Vaclav Havel)
Neidio i: llywio, chwilio
Václav Havel yn 2008.

Dramodydd, bardd a gwleidydd Tsiecaidd oedd Václav Havel (5 Hydref 193618 Rhagfyr 2011). Ef oedd arlywydd olaf Tsiecoslofacia ac arlywydd cyntaf y Weriniaeth Tsiec.

Cafodd ei eni ym Mhrag, yn fab i Václav Maria Havel a'i wraig Božena Vavřečková. Prioddod ei wraig gyntaf, Olga Šplíchalová, (bu farw ym 1996) ym 1964. Daeth Václav Havel i'r amlwg gyda'i waith llenyddol, ac yna daeth yn fwyfwy gweithgar yng ngwleidyddiaeth Tsiecoslofacia adeg Gwanwyn Prag a goresgyniad y wlad gan luoedd Cytundeb Warsaw a ddaeth â therfyn i ddiwygiadau i'r drefn gomiwnyddol. Cafodd ei garcharu nifer o weithiau am wrthwynebu'r llywodraeth. Daeth yn arlywydd Tsiecoslofacia yn sgîl y Chwyldro Melfed, un o chwyldroadau 1989 a arweiniodd at gwymp comiwnyddiaeth yn Nwyrain Ewrop a diwedd y Rhyfel Oer, ac yn arlywydd y Weriniaeth Tsiec yn sgîl yr Ysgariad Melfed a welodd yr hen Tsiecoslofacia'n rhannu'n ddwy.

Cynnwys

Llyfryddiaeth [golygu]

Barddoniaeth [golygu]

  • Čtyři rané básně
  • Záchvěvy I & II (1954)
  • První úpisy (1955)
  • Prostory a časy (1956)
  • Na okraji jara (cyklus básní) (1956)
  • Antikódy (1964)

Drama [golygu]

  • Autostop (1960)
  • Rodinný večer (1960)
  • Zahradní slavnost (1963)
  • Vyrozumění (1965)
  • Ztížená možnost soustředění (1968)
  • Motýl na anténě (1968)
  • Strážný anděl (1968)
  • Horský hotel (1976)
  • Protest (1978)
  • Chyba (1983)
  • Pokoušení (1985)
  • Asanace (1987)
  • Odcházení (2007)

Eraill [golygu]

  • Dopisy Olze (1988)
  • Letní přemítání (1994)