VISA

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Menter economaidd ar y cyd o 21,000 o sefydliadau ariannol yw Visa Corfforedig neu VISA yn gyffredin, sy'n cyhoeddi a gwerthu cynnyrch Visa gan gynnwys cardiau credyd a debyd. Acronym ailadroddus oedd yr enw'n wreiddiol, sef Visa International Service Association. Fel rhan o gynllun IPO ac ailstrwythuro VISA, newidwyd yr enw ar ddiwedd 2007. Nid yw VISA yn ymdrin â benthyg unrhyw arian, yn hytrach maent yn cynhyrchu refeniw drwy weithredu rhwydwaith taliadau electroneg mwyaf y byd. Mae'r cwmni wedi'i lleoli yn San Francisco, California, UDA.

Accountancy template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am economeg neu arianneg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.