Uwchgynhadledd NATO, 1999

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Uwchgynhadledd Washington, 1999)
Neidio i: llywio, chwilio
Cynhadledd Cyngor Gogledd yr Iwerydd yn Awditoriwm Mellon yn Washington, D. C. ar 24 Ebrill 1999 yn ystod Uwchgynhadledd Washington, 1999.

Pymthegfed uwchgynhadledd NATO oedd Uwchgynhadledd Washington, 1999 a gynhaliwyd yn Washington, D.C. ar 24-25 Ebrill 1999. Cynhaliwyd yn ystod Ymgyrch Grym Cynghreiriol, ymgyrch fomio y cynghrair yn Iwgoslafia. Roedd yr uwchgynhadledd yn dathlu pen-blwydd NATO yn 50 mlwydd oed. Hon oedd yr uwchgynhadledd gyntaf ers esgyniad Hwngari, Gwlad Pwyl, a'r Weriniaeth Tsiec i'r cynghrair.