Defnyddiwr:Nan.lloydwilliams

Oddi ar Wicipedia

Derbyniodd yr Is-gyrnol Charles Hotham Montagu Doughty-Wylie VC CB CMG (23 Gorffennaf 1868 – 26 Ebrill 1915)[1] fedal Croes Fictoria. Hefyd, ar ol ei farwolaeth, derbyniodd Doughty-Wylie anrhydedd Urdd y Medjidie gan Lywodraeth yr Ottoman y bu'n ymladd yn eu herbyn.

Ganed Doughty-Wylie yn Suffolk, a derbyniodd ei addysgu yng Ngholeg Caer-wynt. Graddiodd o Goleg Milwrol Brenhinol Sandhurst ym 1889. Yn ystod ei yrfa filwrol bu'n flaengar yng Nghyrch Chitral (1895) a Goresgyniad Creta ym 1898 a bu yn y Swdan yn gwasanaethu gyda'r Arglwydd Kitchener yn rhyfel y Mahdis (1898–99). Ym 1899 cymerodd ran yng nhorchfygiad terfynol y Khailfa fel Uwch Frigadydd i'r Frigad Droed gyda'r golofn symudol ac fe'i canmolwyd mewn adroddiadau.[2]  Yn dilyn hyn, gwasanaethodd yn y Rhyfel yn erbyn y Boeriaid, yna gostegu Gwrthryfel y Bocswyr (1900) a bu'n rheoli uned o Gorfflu'r Camel yn Somalia (1903-04).

Bu'r Cyrnol Doughty-Wylie yn Is-gennad Prydain ym Mersina[3], Ymerodraeth Ottoman yn ystod Chwyldro y Tyrciaid Ifanc ym 1909. Cyfarfu yno gyda Richard Bell-Davies, a dderbyniodd Groes Fictoria yn ddiweddarach, pan oedd bryd hynny yn Is-Gyrnol ar long rhyfel y Swiftsure. Rhydd adroddiad am y cyfarfyddiad hwnnw yn ei hunangofiant "Sailor in the Air" (1967).

Anrhydeddwyd Charle Hotham Montagu Doughty-Wylie gydag Urdd y Medjidie gan Lywodraeth yr Ottoman fel gwerthfawrogiad o'i waith yn ystod Rhyfel y Balkan, pan fu'n gwasanaethu gyda'r Groes Goch Brydeinig i helpu'r Ottomaniaid Milwrol.[4]

Pan oedd Doughty-Wylie yn chwech a deugain oed, ac yn Is-gyrnol yng Nghatrawd Frenhinol Gymreig Byddin Prydain, cafodd ei atodi i staff pencadlys y Cadfridog Syr Ian Hamilton ym Myddin Rhyfelgyrch y Canoldir yn ystod brwydr Gallipoli oherwydd fod ganddo "wybodaeth mor eang am bethau Twrcaidd" yn ôl Bell-Davies.

Ar 26 Ebrill 1915, yn dilyn glaniad yr SS River Clyde ar Benrhyn Helles ym Mhenrhyn Gallipoli, trefnodd yr Is-Gyrnol Doughty-Wylie a Swyddog arall, Garth Neville Walford, ymosodiad o'r ddwy ochr drwy bentref Sedd-el-Bahr ar yr Hen Gaer ar ben yr allt. Roedd y gelyn wedi ymgloddio eu safle yn ddwfn, ond gyda diolch yn bennaf i arweiniad, sgil a chryn ddewrder ar ran y ddau swyddog, roedd yr ymosodiad yn llwyddiant mawr.[5] Fodd bynnag, fe gafodd Doughty-Wylie a Walford ill dau eu lladd ynghanol y frwydr fuddugoliaethus. Saethwyd Doughty-Wylie yn ei wyneb gan saethwr cudd a bu farw yn y fan a'r lle.

Cafodd Doughty-Wylie ei gaddu yn ymyl y fan lle y'i lladdwyd, sef i'r gogledd o Sedd-el-Bahr, gyferbyn â'r man lle glaniodd yr 'SS River Clyde'. Ei fedd yw'r unig fedd i Brydeiniwr neu fedd rhyfel y Gymanwlad ar Benrhyn Gallipoli. Mae'r awdurdodau Twrcaidd wedi symud beddau'r milwyr tramor eraill i gyd i feddau 'Traeth V', ar wahan i'w fedd ef.[6]

Cafodd ei Groes Fictoria ei chyflwyno ar ôl ei farw am ddewrder yn ystod y glaniad ar draeth Gallipoli yn Ebrill 1915[7], a chaiff ei harddangos yn Amgueddfa y Ffiwsilwyr Cymreig yng Nghastell Caernarfon, Gwynedd. Mae darn o haearn plât a falwyd o'r SS River Clyde i'w weld yn Amgueddfa Catrawd Swydd Hampshre yng Nghaer-wynt, Lloegr.[8] Cafodd enw Charles Doughty-Wylie ei gofnodi ar y gofgolofn rhyfel y tu allan i Eglwys Sant Pedr yn Theberston, Suffolk. Y tu mewn i'r eglwys fe'i ddarlunir mewn ffenestr liw fel Sant Siôr.[9]

LLYFRYDDIAETH

  • Monuments To Courage (David Harvey, 1999)
  • The Register of the Victoria Cross (This England, 1997)
  • VCs of the First World War - Gallipoli (Stephen Snelling, 1995
  1. Snelling, Stephen (1995). VCs of the First World War - Gallipoli. Alan Sutton Publishing. p. 75. ISBN 0-7509-0566-2
  2. The London Gazette: no. 27159. p. 599. 30 January 1900
  3. http://www.anzacsite.gov.au/2visiting/tourhelles3.html
  4. http://www.stargazete.com/guncel/turkleri-cok-seviyordu-sahile-silahsiz-cikmisti-haber-256544.htm
  5. The London Gazette: (Supplement) no. 29202. p. 6115. 22 June 1915. Retrieved 8 April 2015
  6. http://www.cwgc.org/search/casualty_details.aspx?casualty=2000869
  7. Freeman, Colin. "How Gertrude Bell Caused a Desert Storm". The Telegraph. Retrieved 23 April 2015
  8. College, Wincester. "Winchester College at War". Doughty-Wyle, Charles Hotham Montagu. Retrieved 23 April 2015
  9. Snelling, Stephen (1995). VCs of the First World War - Gallipoli. Alan Sutton Publishing. p. 78. ISBN 0-7509-0566-2