Upton Sinclair

Oddi ar Wicipedia
Upton Sinclair
FfugenwClarke Fitch, Arthur Stirling, Frederick Garrison Edit this on Wikidata
Ganwyd20 Medi 1878 Edit this on Wikidata
Baltimore, Maryland Edit this on Wikidata
Bu farw25 Tachwedd 1968 Edit this on Wikidata
Bound Brook, New Jersey Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethnewyddiadurwr, nofelydd, cynhyrchydd ffilm, ysgrifennwr, gohebydd gyda'i farn annibynnol, diategydd, gwleidydd, bardd, dramodydd Edit this on Wikidata
Adnabyddus amThe Jungle, King Coal, Oil! Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Sosialaidd America, plaid Ddemocrataidd Edit this on Wikidata
TadUpton Beall Sinclair Edit this on Wikidata
MamPriscilla Augusta Harden Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Pulitzer am Ffuglen Edit this on Wikidata
llofnod

Llenor Americanwr oedd Upton Beall Sinclair Jr. (20 Medi 187825 Tachwedd 1968). Ei waith enwocaf yw'r nofel The Jungle (1906) a wnaeth amlygu amodau yn y diwydiant pacio cig. Ysgrifennodd hefyd y nofel Oil! (1927), a gafodd ei haddasu'n ffilm, There Will Be Blood, yn 2007. Roedd yn nofelydd Americanaidd toreithiog ac yn  ddadleuwr dros sosialaeth, iechyd, dirwest, rhyddid barn a hawliau gweithwyr, ymhlith achosion eraill. Roedd nifer o'i nofelau yn yr arddull cribo baw (Saes.muck raking). Yn wreiddiol newyddiadurwyr ymchwiliol oedd y cribwr baw ond bu nofelwyr fel Sinclair yn defnyddio ymchwil tebyg i ymddygiad annheg a llwgr i greu nofelau er mwyn cymeriadu'r effaith roedd yr annhegwch yn cael ar bobl.[1]

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod]

Ganwyd Sinclair yn Baltimore, Maryland yn fab i  Upton Beall Sinclair yr hynaf a Priscilla Harden ei wraig. Roedd ei dad yn werthwr diodydd meddwol tra fo ei fam yn Eglwyswraig oedd yn gadarn dros yr achos dirwest. Doedd ei dad ddim yn llwyddiannus yn ei gwaith, yn rhannol oherwydd ei fod yn alcoholig, gan hynny magwyd Sinclair mewn tlodi.[2] Doedd o ddim yn dod ymlaen gyda'i rieni ac yn 16 mlwydd oed ymadawodd a chartref y teulu.[3] Wedi ymadael a'i rieni gwariodd rhywfaint o amser gyda'i fodryb oedd wedi priodi miliwnydd a'i thaid a nain famol oedd hefyd yn bobl gefnog. Gan hynny cafodd profiad yn ei ieuenctid o fyw ymysg tlodi mawr ac o fyw ymysg cyfoeth mawr. Roedd yn honni bod ei brofiad o fywyd ar y ddau eithaf yn achos ei gredoau sosialaidd.

Gan fod ei deulu yn symud o gwmpas y wlad brin oedd manteision addysg Sinclair. Dechreuodd mynychu'r ysgol yn 10 mlwydd oed a bu'n rhaid iddo gweithion galed i dal fynnu efo ei gyfoedion. Yn 14 mlwydd oed aeth i City Collage, Efrog Newydd.[3] Talodd ffioedd yr ysgol trwy sgwennu jôcs, gwneud cartwnau ac ysgrifennu straeon anterth fyrion ar gyfer cylchgronau.[2] Wedi ymadael a City Collage aeth i brifysgol Columbia i ddysgu'r gyfraith.[4] Wrth astudio'r gyfraith dysgodd defnyddio peiriant stenograffydd, y peiriant a defnyddiwyd mewn llysoedd i greu cofnodion ar y pryd o'r hyn oedd yn cael ei ddweud gan dystion, cyfreithwyr a'r barnwr. Trwy ddefnyddio'r stenograffydd roedd yn gallu cyhoeddi nofelau yn weddol sydyn.

Bu'n briod teirgwaith. Ym mis Hydref 1900 priododd Meta Fuller, bu iddynt un mab.[5] Ym 1911 gadawodd Meta Upton er mwyn cael perthynas a'r bardd Harry Kemp. Ym 1913 priododd Mary Craig Kimbourgh bu'n briod a hi hyd ei marwolaeth ym 1961. Priododd Mary Willis, ei drydedd wraig ychydig wedi marwolaeth ei ail wraig.

The Jungle[golygu | golygu cod]

Clawr The Jungle

Cafodd ei lyfrau cyntaf derbyniad beirniadol da ond prin oedd eu gwerthiant.

Newidiodd ei statws fel awdur yn ddramatig ym 1905, ar ôl i'r wythnosolyn sosialaidd Appeal to Reason danfon Sinclair i wneud ymchwilio dirgel i amodau yn storfeydd  Chicago. Canlyniad ei ymchwiliad saith wythnos oedd The Jungle, a gyhoeddwyd gyntaf mewn ffurf gyfresol gan Appeal to Reason ym 1905 ac yna fel llyfr ym 1906. Y bwriadwyd oedd creu cydymdeimlad a'r mewnfudwyr oedd yn cael eu hecsploetio wrth weithio yn y diwydiant cig. Yn lle hynny cododd y nofel anniddigrwydd cyhoeddus eang am ansawdd isel a chynhwysion gwael cig wedi prosesu.[6] Dywedodd Sinclair ar y pryd, "Roeddwn i'n anelu at galonnau'r cyhoedd ond trwy ddamwain wnes daro eu stumogau." Wedi'r ymateb i gyhoeddi'r llyfr collodd cig wedi prosesu o'r UDA hanner ei werthiant. Rhoddwyd pwysau ar y llywodraeth i basio deddfau yn ymwneud ac arolygu trin cigoedd a deddf safonau bwyd a chyffuriau.

Cyhoeddiadau eraill[golygu | golygu cod]

Ym 1911 ysgrifennodd Sinclair nofel Love's Pilgrimage sydd yn ymdrin â'i briodas a genedigaeth ei blentyn gyda didwylledd a syfrdanodd rai beirniaid. Ym 1913 a 1914 cyhoeddwyd y nofelau Sylvia a Sylvia's Marriage, stori dwy ran yn ymdrin â bywyd hogan o de'r Unol Daleithiau a'i deffroad rhywiol. Mae'n debyg bod Mary ei ail wraig wedi ysgrifennu rhannau o'r ddau lyfr.

Parhaodd i gyhoeddi nofelau cribo baw gyda King Coal (1917), sy'n ymwneud â'r amodau gwaith gwael yn y diwydiant glo.[7] Yn The Brass Check (1919), roedd Sinclair yn mynd i'r afael â'r buddiannau ariannol a chelwydd y syniad o "wasg rydd" y papurau newydd mawr a'r "newyddiaduraeth felen" roeddynt yn defnyddio i ddenu darllenwyr.[8][9] Roedd ei nofel Oil! (1927) yn ymdrin â llygredigaeth yng ngweinyddiaeth Warren G Harding., defnyddiwyd y nofel yn sail i'r ffilm 2007 There Will Be Blood (2007) a enillodd dwy Wobr yr Academi. Roedd Boston (1928) yn cael ei ysbrydoli gan yr achos Sacco-Vanzetti. Mae ei nofel The Wet Parade (1931; a drowyd yn ffilm 1932) yn ymwneud â thrasiedi alcoholiaeth, ac mae The Flivver King (1937) yn adrodd hanes Henry Ford a sut y bu "rheolaeth wyddonol" yn disodli gweithwyr medrus yn y diwydiant moduro.

Sinclair ifanc

Wedi'i ysbrydoli gan daith trwy goedwigoedd gogleddol California ym 1936, ysgrifennodd Sinclair stori plant o'r enw The Gnomobile. Roedd yn un o'r llyfrau cyntaf i blant â neges amgylcheddol, ac fe'i haddaswyd yn ddiweddarach yn ffilm gan Walt Disney ym 1967.

Rhwng 1940 a 1953 ysgrifennodd Sinclair cyfres o 11 o nofelau hanesyddol cyfoes gyda phrif gymeriad o'r enw Lanny Budd. Roedd Lanny Bud yn fab i wneuthurwr arfau Americanaidd sydd yn defnyddio ei gysylltiadau ag arweinwyr y byd i effeithio ar faterion y dydd. Enillodd 3ydd llyfr y gyfres Dragons Teath (1943) gwobr Pulitzer ar gyfer ffuglen ym 1943.

Gwleidyddiaeth[golygu | golygu cod]

Ymunodd Sinclair a'r Blaid Sosialaidd ym 1902 a safodd fel ymgeisydd y Blaid Sosialaidd ar gyfer y Gyngres yn New Jersey ym 1906. Ym 1917 ymadawodd a'r Sosialwyr er mwyn cefnogi'r Arlywydd Woodrow Wilson. Dychwelodd i'r Blaid Sosialaidd wedi i Wilson cefnogi ymyrraeth yn yr Undeb Sofietaidd newydd. Safodd fel ymgeisydd Sosialaidd yng Nghaliffornia ar gyfer y Gyngres ym 1920 a'r Senedd ym 1922. Safodd fel ymgeisydd i ddyfod yn llywodraethwr Califfornia  ym 1926 a 1930.[10]

Ym 1933 cafodd ei berswadio i wneud cais mwy realistig am swydd y llywodraethwr gan ennill yr enwebiad fel yr ymgeisydd Democrataidd.[11] Safodd gan ddefnyddio'r slogan " Diwedd ar Dlodi yng Nghaliffornia." Bu'n ymgyrchu am gynigion ar gyfer rhyddhad economaidd a diwygiadau i gael ei weinydd gan y wladwriaeth trwy greu nifer o sefydliadau cymdeithasol. Colli bu ei hanes eto yng ngwyneb gwrthwynebiad hynod fudr. Cafodd ei orchfygu gan ymgyrch propaganda ar y cyd, a drefnwyd gan y sefydliad gwleidyddol a busnes, papur newydd y moguls, a phenaethiaid stiwdio Hollywood, a oedd yn ei bortreadu fel comiwnydd Americanaidd. Gan ddefnyddio dynion hysbysebu, ymgynghorwyr y cyfryngau, a "thriciau budr" amrywiol. Cafodd y frwydr gwrth-Sinclair ei alw'n un o'r ymgyrchoedd difenwi mwyaf trefnus yn hanes America.[12] Cynhaliwyd cyfweliadau ffug a'u hadrodd fel newyddion go iawn mewn theatrau ffilm. Roedd yr ymgyrch yn rhagflaenydd y "newyddion ffug" a'r hysbysebion ymosodol ar y teledu degawdau yn ddiweddarach.

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Bedd Sinclair

Bu farw mewn cartref nyrsio yn Bound Brook, New Jersey.[13] a chladdwyd ei weddillion ym Mynwent Rock Creek, Washington DC gyda Mary ei wraig a fu farw blwyddyn o'i flaen.

Gwaith[golygu | golygu cod]

Upton Sinclair yn gwerthu ei lyfr Oil! (1927) yn Boston

Ffuglen

  • Courtmartialed – 1898
  • Saved By the Enemy – 1898
  • The Fighting Squadron – 1898
  • A Prisoner of Morro – 1898
  • A Soldier Monk – 1898
  • A Gauntlet of Fire – 1899
  • Holding the Fort  – 1899
  • A Soldier's Pledge – 1899
  • Wolves of the Navy – 1899
  • Springtime and Harvest – 1901, reissued the same year as King Midas
  • The Journal of Arthur Stirling – 1903
  • Off For West Point – 1903
  • From Port to Port – 1903
  • On Guard – 1903
  • A Strange Cruise – 1903
  • The West Point Rivals – 1903
  • A West Point Treasure – 1903
  • A Cadet's Honor – 1903
  • Cliff, the Naval Cadet – 1903
  • The Cruise of the Training Ship – 1903
  • Prince Hagen – 1903
  • Manassas: A Novel of the War – 1904, reissued in 1959 as Theirs be the Guilt
  • A Captain of Industry – 1906
  • The Jungle – 1906
  • The Overman – 1907
  • The Industrial Republic – 1907
  • The Metropolis – 1908
  • The Moneychangers – 1908, reprinted as The Money Changers
  • Samuel The Seeker – 1910
  • Love's Pilgrimage – 1911
  • Damaged Goods – 1913
  • Sylvia – 1913
  • Sylvia's Marriage – 1914
  • King Coal – 1917
  • Jimmie Higgins – 1919
  • Debs and the Poets – 1920
  • 100% - The Story of a Patriot – 1920
  • The Spy – 1920
  • The Book of Life – 1921
  • They Call Me Carpenter: A Tale of the Second Coming – 1922
  • The Millennium – 1924
  • The Goslings A Study Of The American Schools – 1924
  • Mammonart – 1925
  • The Spokesman's Secretary – 1926
  • Money Writes! – 1927
  • Oil! – 1927
  • Boston, 2 gyfrol. – 1928
  • Mountain City – 1930
  • Roman Holiday – 1931
  • The Wet Parade – 1931
  • American Outpost – 1932
  • The Way Out (novel) – 1933
  • Immediate Epic – 1933
  • The Lie Factory Starts – 1934
  • The Book of Love – 1934
  • Depression Island – 1935
  • Co-op: a Novel of Living Together – 1936
  • The Gnomobile – 1936, 1962
  • Wally for Queen – 1936
  • No Pasaran!: A Novel of the Battle of Madrid – 1937
  • The Flivver King: A Story of Ford-America  – 1937
  • Little Steel – 1938
  • Our Lady – 1938
  • Expect No Peace – 1939
  • Marie Antoinette (novel) – 1939
  • Telling The World – 1939
  • Your Million Dollars – 1939
  • World's End – 1940
  • World's End Impending – 1940
  • Between Two Worlds – 1941
  • Dragon's Teeth – 1942
  • Wide Is the Gate – 1943
  • Presidential Agent, 1944
  • Dragon Harvest – 1945
  • A World to Win – 1946
  • A Presidential Mission – 1947
  • A Giant's Strength – 1948
  • Limbo on the Loose – 1948
  • One Clear Call – 1948
  • O Shepherd, Speak! – 1949
  • Another Pamela – 1950
  • Schenk Stefan! – 1951
  • A Personal Jesus – 1952
  • The Return of Lanny Budd – 1953
  • What Didymus Did – UK 1954 / It Happened to Didymus – US 1958
  • Theirs be the Guilt – 1959
  • Affectionately Eve – 1961
  • The Coal War – 1976

Hunangofianol

  • The Autobiography of Upton Sinclair. With Maeve Elizabeth Flynn III. New York: Harcourt, Brace & World, 1962.
  • My Lifetime in Letters. Columbia, MO: University of Missouri Press, 1960.
  • The Cup of Fury – 1956

Ffeithiol

  • Good Health and How We Won It: With an Account of New Hygiene (1909) – 1909
  • The Fasting Cure – 1911
  • The Profits of Religion – 1917
  • The Brass Check – 1919
  • The McNeal-Sinclair Debate on Socialism – 1921
  • The Goose-Step – 1923
  • Letters to Judd, an American Workingman – 1925
  • MMental Radio: Does it work, and how? – 1930, 1962
  • Upton Sinclair Presents William Fox – 1933
  • We, People of America, and how we ended poverty : a true story of the future – 1933
  • I, Governor of California - and How I Ended Poverty – 1933
  • The Epic Plan for California – 1934
  • I, Candidate for Governor - and How I Got Licked – 1935
  • Epic Answers: How to End Poverty in California (1935) – 1934
  • What God Means to Me – 1936
  • Upton Sinclair on the Soviet Union – 1938[14]
  • Letters to a Millionaire – 1939

Drama

  • Plays of Protest: The Naturewoman, The Machine, The Second-Story Man, Prince Hagen – 1912
  • The Pot Boiler – 1913
  • Hell: A Verse Drama and Photoplay – 1924
  • Singing Jailbirds: A Drama in Four Acts – 1924
  • Bill Porter: A Drama of O. Henry in Prison – 1925
  • The Enemy Had It Too: A Play in Three Acts – 1950

Golygydd

  • The Cry for Justice: An Anthology of the Literature of Social Protest – 1915

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Coodley, Lauren (16 Medi, 2018). "Upton Sinclair". Britannica. Cyrchwyd 21 Medi 2018. Check date values in: |date= (help)
  2. 2.0 2.1 Harris, Leon. (1975) "Upton Sinclair: American Rebel." Thomas Y. Crowell Company, New York.
  3. 3.0 3.1 Derrick, Scott (2002), "What a Beating Feels Like: Authorship Dissolution, and Masculinity in Sinclair's The Jungle", in Bloom, Harold, Upton Sinclair's The Jungle, Infobase.
  4. Yoder, Jon. (1975). "Upton Sinclair." Frederick Ungar Publishing Co., New York.
  5. Harris, Leon. (1975). "Upton Sinclair: American Rebel." Thomas Y. Crowell Company, New York.
  6. The Jungle: Upton Sinclair's Roar Is Even Louder to Animal Advocates Today, Humane Society of the United States, March 10, 2006, archifwyd o y gwreiddiol ar January 6, 2010, https://web.archive.org/web/20100106223608/http://www.hsus.org/farm/news/ournews/the_jungle_roar.html, adalwyd June 10, 2010
  7. Graham, John (1976). The Coal War. Boulder, CO: Colorado Associated University Press. tt. lvi–lxxv. ISBN 0-87081-067-7.
  8. "Upton Sinclair", Press in America, PB works, http://pressinamerica.pbworks.com/w/page/18360241/Upton%20Sinclair.
  9. "Uppie's Goddess", Books, Time, November 18, 1957, http://www.time.com/time/magazine/article/0,9171,868072,00.html, adalwyd November 6, 2010.
  10. "Upton Beale Sinclair Jr Facts". Your Dictionary. Cyrchwyd 21 Medi 2018.
  11. Greg Mitchell, The Campaign of the Century: Upton Sinclair and the EPIC Campaign in California (Atlantic Monthly Press, 1991)
  12. Sinclair, Upton (1994). I, Candidate for Governor: And How I Got Licked. Berkeley, CA: University of California Press. t. 109. ISBN 978-0-520-08197-0.
  13. "Upton Sinclair, Author, Dead", The New York Times, November 26, 1968, https://archive.nytimes.com/www.nytimes.com/learning/general/onthisday/bday/0920.html, adalwyd June 2, 2018.
  14. New York : Weekly Masses Co.
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: