Upper Hergest
Oddi ar Wicipedia
Pentref bychan gwledig yn Swydd Henffordd, Lloegr, yw Upper Hergest. Mae'n gorwedd mewn rhan o'r sir honno sydd â chysylltiadau Cymreig hanesyddol.
Mae'n gorwedd ym mhlwyf Ceintun (Kington) tua hanner ffordd rhwng Llanfair-ym-Muallt, Powys a thre Henffordd, tua 2 filltir i'r dwyrain o'r ffin rhwng Cymru a Lloegr.
Diogelwyd Llyfr Coch Hergest, un o'r llawysgrifau Cymraeg pwysicaf, ym mhlas Hergest gerllaw.
Ceir Cefn Hergest (Hergest Ridge) i'r gorllewin, ar hyd y ffin.
Trefi a phentrefi Swydd Henffordd
Trefi
Llanllieni · Rhosan ar Wy
Pentrefi
Clifford · Clodock · Dilwyn · Ewyas Harold · Kentchurch · Longtown · Lower Hergest · Llanddewi Cil Peddeg · Llanveynoe · Symonds Yat · Upper Hergest · Weston under Penyard