Uned Brosesu Ganolog

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Deiau microbrosesydd Intel 80486DX2 (maint gwirioneddol: 12×6.75 mm).

Y rhan o gyfrifiadur sy'n gweithredu cyfarwyddiadau'r rhaglen gyfrifiadurol ydy'r uned brosesu ganolog. Dymar brif elfen sy'n perfformio swyddogaethau'r cyfrifiadur. Mae'r uned brosesu ganolog yn gweithredu pob cyfarwyddyd y rhaglen mewn trefn, er mwyn gwneud tasgau elfennol rhifyddol, rhesymegol a mewnbwn/allbwn y system. Mae'r term Saesneg sef central processing unit wedi cael ei ddefnyddio ers y 1960au.[1] Mae ffurf, dyluniad a'r modd y defnyddir UBG wedi newid ers yr esiamplau cynharaf, ond mae nifer o'r egwyddorion sylfaenol wedi aros yr un peth.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Weik, Martin H. (1961). A Third Survey of Domestic Electronic Digital Computing Systems. Ballistic Research LaboratoriesURL