Underground Llundain
Oddi ar Wicipedia
System trafnidiaeth gyflym yw Underground Llundain neu y tiwb (Saesneg: London Underground neu the Tube) sydd yn gwasanaethu rhan helaeth o Lundain Fawr ynghyd ac ardaloedd cyfagos Essex, Swydd Hertford a Swydd Buckingham yn Ne-Ddwyrain Lloegr, Y Deyrnas Unedig.
Pan agorwyd rhan gyntaf y system ym 1863 hon oedd rhwydwaith reilffordd tanddaearol cyntaf y byd. Ond er fod yr enw yn awgrymu system danddaearol, mae 55% o'r rhwydwaith yn gweithredu uwchben y ddaear.
Gorsafoedd a Leiniau [golygu]
Mae gan Underground Llundain 11 lein:
- Bakerloo (brown)
- Central (coch)
- Circle (melyn)
- District (gwyrdd)
- Hammersmith & City (pinc)
- Jubilee (llwyd)
- Metropolitan (piws/porffor)
- Northern (du)
- Piccadilly (glas tywyll)
- Victoria (glas golau)
- Waterloo & City (glaswyrdd).
Parth 1 (parth canolog) o Underground Llundain (a rhwydwaith y DLR) ar fap daearyddol, yn wahanol i'r mapiau Underground arferol