Umbriel (lloeren)

Oddi ar Wicipedia
Umbriel
Enghraifft o'r canlynollleuad o'r blaned Wranws, lleuad arferol Edit this on Wikidata
Màs1.1717 ±0.13 Edit this on Wikidata
Dyddiad darganfod24 Hydref 1851 Edit this on Wikidata
Echreiddiad orbital0.0039 Edit this on Wikidata
Radiws584.7 ±2.8 cilometr Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Umbriel yw'r drydedd ar ddeg o loerennau Wranws a wyddys:

Cylchdro: 265,980 km oddi wrth Wranws

Tryfesur: 1170 km

Cynhwysedd: 1.27e21 kg

Cymeriad yn y gerdd The Rape of the Lock gan Alexander Pope yw Umbriel.

Cafodd y lloeren ei darganfod gan Lassel ym 1851.

Mae Umbriel ac Oberon yn ymddangos yn debyg i'w gilydd er bod maint Oberon yn 35% yn fwy. Fel lloerennau mawr eraill Wranws, mae Umbriel wedi ei chyfansoddi o 40-50% dŵr a 50-60% deunydd creigiog. Mae arwyneb Umbriel yn llawn o graterau ac yn ôl pob tebyg mae wedi bod yn sefydlog ers ei ffurfio. Mae gan Umbriel fwy o graterau - a rhai mwy eu maint - nag Ariel a Titania.

Mae Umbriel yn dywyll iawn; mae'n adlewyrchu dim ond hanner cymaint o olau ag Ariel, lloeren fwyaf disglair Wranws.

Eginyn erthygl sydd uchod am seryddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.