Ullapool

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Harbwr Ullapool

Mae Ullapool (Gaeleg yr Alban: Ullapul neu Ulapul) yn dref fechan yn Ross a Cromarty, yn Ucheldiroedd yr Alban. Mae ganddi boblogaeth o 1,307, ond serch hynny Ullapool yw'r dref fwyaf mewn ardal eang o ogledd-orllewin yr Alban.

Sefydlwyd Ullapool yn 1788 fel porthladd pysgota penwaig, wedi'i chynllunio gan Thomas Telford, ar lan dwyreiniol Loch Broom. Mae'r harbwr yn cael ei defnyddio gan gychod pysgota a chychod hwylio ac yn borth fferi ar gyfer teithiau i Stornoway ar Leòdhas yn Ynysoedd Heledd. Yn ogystal mae gan y dref amgueddfa fach, canolfan celf, pwll nofio a thafarndai, ac mae'n boblogaidd gan gerddwyr ac ymwelwyr eraill. Mae'r traddodiad cerddorol yn gryf yn Ullapool.

Mae gorsaf radio leol Loch Broom FM ar 102.2 MHz yn gwasanethu'r dref.

Dolen allanol[golygu]