Ulan Bator

Oddi ar Wicipedia
Ulan Bator
Mathis-adran weinyddol gwlad lefel gyntaf, dinas fawr, dinas â miliynau o drigolion, dinas, y ddinas fwyaf Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,396,288 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1639 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+08:00 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolCentral Mongolia Edit this on Wikidata
SirMongolia Edit this on Wikidata
GwladBaner Mongolia Mongolia
Arwynebedd4,704.4 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr1,350 metr Edit this on Wikidata
GerllawAfon Tuul Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaTalaith Khentii, Talaith Töv Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau47.92136°N 106.90551°E Edit this on Wikidata
Cod post210 Edit this on Wikidata
MN-1 Edit this on Wikidata
Map
Golygfa o fryn Zaisan
Golygfa ar Ulan Bator
Mynachlog Gandantegchinlen Khiid, Ulan Bator

Prifddinas a dinas fwyaf Mongolia yw Ulan Bator, neu Ulaanbaatar (Mongoleg: Улаанбаатар). Mae'r ddinas yn awdurdod llywodraeth leol annibynnol, heb fod yn rhan o dalaith, ac mae ganddi boblogaeth o fymryn dros 1 miliwn (2008).

Wedi'i lleoli yng ngogledd canolbarth y wlad, mae'r ddinas yn gorwedd tua 1310 m i fyny mewn dyffryn agored ar lan Afon Tuul. Hon yw canolfan ddiwylliannol, diwydiannol ac ariannol y wlad. Mae'n ganolfan cludiant hefyd, a gysylltir gan ffyrdd â phob dinas fawr ym Mongolia a gan reilffordd â'r Rheilffordd Traws-Siberia a rhwydwaith rheilffyrdd Gweriniaeth Pobl Tsieina.

Sefydlwyd y ddinas ym 1639 fel canolfan mynachlogydd Bwdhaidd, ond ni thyfodd lawer tan yr 20g pan ddaeth yn ganolfan gweithgynhyrchu fawr gyda rhodfeydd eang a sgwariau agored ac adeiladau sy'n nodweddiadol o bensaernïaeth newydd-glasurol y gwledydd sosialaidd yn ail hanner yr 20g.

Addysg[golygu | golygu cod]

Lleolir prif gampws Prifysgol Genedlaethol Mongolia yn Ulan Bator.

Adeiladau a chofadeiladau[golygu | golygu cod]

Un o adeiladau hynotaf y ddinas yw mynachlog Bwdhaidd Gandantegchinlen Khiid (Mongoleg: Гандантэгчинлэн хийд; cyfieithiad: "Y Lle Enfawr, Llawn Hapusrwydd") gyda 'i gerflun 26.5-metr o Avalokiteśvara. Adeiladnodedig arall yw Eglwys Gadeiriol Seintiau Pedr a Phaul.

Enwogion[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am Fongolia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato