Uighur

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Merch ifanc o Uighur

Pobl Dwrcaidd sy'n byw yn Xinjiang, rhanbarth hunanlywodraethol o fewn Gweriniaeth Pobl Tsieina yw'r Uighur. Mae tua 31.4 miliwn ohonynt i gyd, 28.82 miliwn o'r rhain yn Xinjiang, lle maent yn ffurfio 45% o'r boblogaeth. Siaradant Uighureg, sy'n un o'r ieithoedd Twrcaidd, ac maent yn ddilynwyr Islam o ran crefydd.

Ceir mudiad cenedlaethol ymhlith yr Uighur sy'n anelu at annibynniaeth i Xinjiang dan yr enw Dwyrain Twrkestan. Yn y blynyddoedd diwethaf, mewnfudodd nifer fawr o Tsineaid Han i Xinjiang, a bu cryn dipyn o dyndra ethnig rhyngddynt hwy a'r Uighur, gydag ymladd ar y strydoedd ym mis Gorffennaf 2009.

Protest gan bobl Uighur ym München, 2008, gyda baner Dwyrain Twrkestan.