Tynwald

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Arfau Ynys Manaw

Y Tynwald (Manaweg: Tinvaal) yw senedd ddeddfwriaethol Ynys Manaw (Ellan Vannin). Mae'n cynnwys dwy gangen sy'n eistedd ar y cyd neu'n annibynnol, sef y Kiare as Feed ("pedwar ar hugain", Tŷ'r Agoriadau) etholedig ac Yn Choonseil Slattyssagh (Y Cyngor Deddfwriaethol). Dywedir mai'r Tynwald yw'r corff deddfwriaethol hynaf yn y byd sydd wedi bodoli'n ddidor, am iddo gael ei sefydlu yn y flwyddyn 979.

Mae canghennau'r Tynwald yn eistedd ar y cyd ar 'Ddydd Tynwald' (Laa Tinvaal) yn St John's (Balley Keeill Eoin) i ddeddfu, ac ar achlysuron eraill yn y brifddinas Douglas (Doolish) i ddelio ag ariannu a pholisi'r llywodraeth. Fel arall maent yn eistedd yn annibynnol, gyda Tŷ'r Agoriadau yn ystyried cynigion deddfwriaeth y llywodraeth a'r Cyngor yn gweithredu fel siambr adolygol.

Daw'r enw Tynwald o'r Gwyddeleg Tine Bhál "Tan Balor".

[golygu] Dolen allanol


Flag of the Isle of Man.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Ynys Manaw. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill