Tydi Bywyd yn Boen

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Tydi bywyd yn boen)
Tydi Bywyd yn Boen
Gwlad/gwladwriaeth Cymru
Iaith/ieithoedd Cymraeg
Nifer cyfresi 1
Nifer penodau 6
Cynhyrchiad
Amser rhedeg tua 30 munud
Cwmnïau
cynhyrchu
Ffilmiau Eryri
Darllediad
Sianel wreiddiol S4C
Fformat llun 571i (4:3 SDTV)
Rhediad cyntaf yn 1990

Cyfres ddrama deledu ar S4C oedd Tydi Bywyd yn Boen. Roedd yn dilyn helyntion y cymeriad Delyth Haf, merch ysgol yng Ngogledd Cymru. Dangoswyd y gyfres gyntaf yn 1990 a'i dilynwyd gan Tydi Coleg yn Gret yn 1993. Ail-ddarlledwyd y gyfres yn 2010 yn rhan o slot 'Aur' S4C.[1]

Seiliwyd y gyfres ar y llyfr o'r un enw gan Gwenno Hywyn (1987, Gwasg Gwynedd, ISBN 9780860740254).[2]

Cynhyrchiad[golygu | golygu cod]

Chwaraewyd y brif ran o Delyth Haf gan Mirain Llwyd Owen.

Cynhyrchwyd y gyfres gan Ffilmiau Eryri. Ffilmiwyd y gyfres yn ardal Bangor a Chaernarfon a golygfeydd yr ysgol yn Ysgol Tryfan.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  Catalog Llyfrgell Cenedlaethol Cymru. Adalwyd ar 30 Ebrill 2016.
  2.  Gwales - 'Tydi Bywyd yn Boen!. Gwales. Adalwyd ar 30 Ebrill 2016.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am deledu. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato