Twrnai Gwladol Lloegr a Chymru

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Twrnai Gwladol Lloegr a Chymru (Saesneg: (Her Majesty's) Attorney General for England and Wales), a elwir yn gyffredinol y Twrnai Gwladol, yw prif ymgynghorydd cyfreithiol y Goron yn Lloegr a Chymru.

Mae'r Twrnai Gwladol yn cynrychioli'r Frenhines a Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn y llysoedd, ac mae ganddo ef/hi bwerau arolygol dros erlyniadau, sy'n disgyn dan gyfrifoldeb y Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus a Gwasanaeth Erlyniad y Goron. Mae'r Twrnai Gwladol hefyd yn cynrychioli'r Goron mewn sawl proses gyfreithiol sy'n ymwneud â materion cyhoeddus, e.e. gweinyddu elusenau a threth incwm. Cynorthwyir y Twrnai Gwladol gan Gyfreithiwr Gwladol Lloegr a Chymru: llenwir y ddwy swydd hyn gan bobl a apwyntir yn wleidyddol ac mae'n rhaid iddynt fod yn aelodau o un o ddwy siambr Senedd y Deyrnas Unedig. Fel rheol nid yw'r Twrnai Gwladol yn aelod o'r Cabinet, ond caiff ei alw i'w gynghori pan fo rhaid. Gan nad oes gan Gymru ei chyfundrefn gyfreithiol ei hun ar hyn o bryd ni cheir Twrnai Gwladol i Gymru. Mae gan yr Alban a Gogledd Iwerddon gyfundrefnau ar wahân.

Dominic Grieve QC, yw'r Twrnai Gwladol presennol.


Society.svg Eginyn erthygl sydd uchod am wleidyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.