Twm Morys

Oddi ar Wicipedia
Twm Morys
Twm Morys yng Ngŵyl Werin y Smithsonian 2013
Ganwyd1961 Edit this on Wikidata
Rhydychen Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethcanwr, bardd Edit this on Wikidata
TadJan Morris Edit this on Wikidata

Bardd a cherddor o Gymro yw Twm Morys (ganwyd Hydref 1961). Enillodd gadair Eisteddfod Genedlaethol Cymru Maldwyn a'r Gororau 2003 ym Meifod am yr awdl Drysau.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Twm Morris yn chwarae gyda'r band Bob Delyn a'r Ebillion yng Ngŵyl Tegeingl 2010.

Ganwyd Morys yn Rhydychen, mae'n fab i'r awdures Jan Morris. Magwyd yn Llanystumdwy, a mynychodd Ysgol y Llan, ac yn saith oed aeth i Ysgol Fonedd yn Amwythig. Dychwelodd i Gymru i astudio Lefel A yn y Gymraeg yn Ysgol Gyfun Aberhonddu.[1]

Graddiodd o Goleg Prifysgol Aberystwyth gyda gradd mewn Astudiaethau Celtaidd ac enillodd gadair yr Eisteddfod Ryng-Golegol. Wedi dechrau gwaith ymchwil ar Ganu Dychan Llyfr Coch Hergest, cafodd Morys swydd fel ymchwilydd gyda Radio Cymru, cyn dod yn glerwr. Symudodd i Lydaw yn ddiweddarach a bu yno am ddegawd.[1] Bu hefyd yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Rennes yn Llydaw.[2]

Twm Morys oedd sylfaenydd y grŵp Bob Delyn a'r Ebillion, gyda'r gitarydd Gorwel Roberts. Bu'r gantores o Lydawes Nolwenn Korbell yn gyd-leisydd gydag ef am gyfnod.

Mae Morys wedi troi ei law at olygu barddoniaeth Cymraeg Canol. Golygodd waith Yr Ustus Llwyd (14g) mewn cyfrol yng Nghyfres Beirdd yr Uchelwyr (2007).

Twm Morys oedd Bardd Plant Cymru o 2009 hyd 2010.[3] Cafodd ei olynu gan Dewi 'Pws' Morris.

Mae Morys yn olygydd cylchgrawn y Gymdeithas Gerdd Dafod, Barddas.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Barddoniaeth[golygu | golygu cod]

Rhyddiaith[golygu | golygu cod]

Gwaith ar y cyd â Jan Morris[golygu | golygu cod]

Ffynonellau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 "Twm Morys". Unknown parameter |cyhoeddwr= ignored (help)
  2.  Twm Morys. Wales Arts International.
  3.  Eryl Crump (2009-05-27). Twm Morys confirmed as laureate at Urdd Eisteddfod. Daily Post.


Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.