Twll

Oddi ar Wicipedia

Lle gwag mewn rhywbeth solet neu agorfa ydy twll. Ceir tyllau mewn amryw o bethau a llefydd:

  • Gwneir twll yn y pridd er mwyn plannu planhigyn.
  • Ceir tyllau mewn dillad, weithiau'n fwriadol ac weithiau wrth i'r brethyn dreulio; a cheir dywediad "gwell clwt na thwll". 'Twll botwm' i ddal botwm.
  • Mae rhai cenhedloedd yn goddef tyllau yn y croen, gyda phin neu erfyn o ryw fath yn cael ei arddangos drwy'r twll.
  • Ceir tyllau naturiol hefyd yn y corff megis y twll tin. Mae hyn yn sail i sawl ddywediad difrïol, e.e. "Twll dy din di, Ffaro!". 'Twll tin byd', back of beyond.
  • Twll du, mewn seryddiaeth.
  • Twll Du Calcutta
  • Y gair Llydaweg am dwll ydy "toull" ac fe ddefnyddir y gair hwn hefyd yn y Llydaweg am wain merch.
  • Yng Nghaernarfon ceir tafarn o'r enw "Twll yn Wal" a dywedir hyn hefyd ar lafar i ddisgrifio peiriant arian mewn wal banc.
  • Mewn golff ceir tyllau yn y cae i daro'r bêl iddynt; pan fo rhywun yn taro'r bêl i'r twll gydag un ergyd fe'i gelwir yn "twll mewn un".
  • Gelwir twll dwfn mewn mynydd neu glogwyn yn ogof.
  • 'Twll cath' i adael cath trwy ddrws.
  • 'Twll o le' am rywle annymunol neu ddiflas.
  • 'Twll dan grisiau', ar lafar yn y Gogledd am fath o gwpwrdd dan grisiau.

Pan deipir "twll" i mewn i Google, dyma'r rhestr cyfoes (Medi 2010) o'u hawgrymiadau [1], seiliedig ar y pethau mae pobl wedi chwilio amdanynt yn y gorffennol:

  • twll dîn pob sais
  • twll clawdd
  • twll du
  • twll dyn pob saes
  • twll tin pob sais
  • twll din
  • twll y corryn
  • twll clawdd caravan site
  • twll dyn bob sais
  • twll tin
Chwiliwch am twll
yn Wiciadur.