Turtur
Oddi ar Wicipedia
| Turtur | |
|---|---|
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Animalia |
| Ffylwm: | Chordata |
| Dosbarth: | |
| Urdd: | Columbiformes |
| Teulu: | Columbidae |
| Genws: | Streptopelia |
| Rhywogaeth: | S. turtur |
| Enw deuenwol | |
| Streptopelia turtur (Linnaeus, 1758) |
|
Mae'r Durtur (Streptopelia turtur) yn aderyn sy'n aelod o deulu'r Columbidae, y colomennod. Mare'n aderyn mudol, yn nythu yn Ewrop ac Asia cyn belled i'r de a Twrci, ac yn gaeafu yn rhan ddeheuol Affrica.
Yn Ewrop, mae ei niferoedd wedi gostwng yn sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf, yn rhannol oherwydd newidiadau mewn amaethyddiaeth. Credir fod y niferoedd sy'n cael eu saethu yn rhai o wledydd Môr y Canoldir wrth iddynt fudo hefyd wedi cael effaith.
Bu gostyngiad mawr yn ei niferoedd yng Nghymru dros y blynyddoedd, a dim ond yn y de-ddwyrain, yn Sir Fynwy, y mae'n nythu'n rheolaidd bellach.