Tudur Dylan Jones

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Tudur Dylan)
Tudur Dylan Jones
Ganwyd30 Mehefin 1965 Edit this on Wikidata
Caerfyrddin Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata
TadJohn Gwilym Jones Edit this on Wikidata

Prifardd ac enillydd y Goron yn Eisteddfod Sir y Fflint 2007 yw Tudur Dylan Jones a adnabyddir fel arfer fel Tudur Dylan (ganed 30 Mehefin 1965). Enillodd y Gadair yn Eisteddfod Bro Colwyn yn 1995, pan oedd ei dad, y Prifardd John Gwilym, yn archdderwydd, ac yn Eisteddfod Eryri a'r Cyffiniau yn 2005. Ef yw meuryn Ymryson y Beirdd a gynhelir yn y Babell Lên yn ystod wythnos yr Eisteddfod.

Fe'i ganed yng Nghaerfyrddin, ond fe'i maged ym Mangor, lle mynychodd Ysgol Tryfan. Ym Mangor yr aeth i'r Brifysgol hefyd. Athro ysgol yn Ysgol Gyfun y Strade, Llanelli yw Tudur Dylan wrth ei alwedigaeth. Bellach mae'n byw yng Nghaerfyrddin gyda'i wraig. Mae'n dad i ddwy ferch.

Ef oedd Bardd Plant Cymru 20042005.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Fel cyfieithydd[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "www.gwales.com - 9781900437417, Adenydd". www.gwales.com. Cyrchwyd 2022-06-19.
  2. "Gwedd Gyflwyno". www.barddoniaeth.cymru. Cyrchwyd 2022-06-19.


Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur Cymreig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.