Tudur Owen

Oddi ar Wicipedia
Tudur Owen
Ganwyd22 Mai 1967 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethactor, cyflwynydd radio, cyflwynydd teledu, digrifwr Edit this on Wikidata

Actor, digrifwr, cyflwynydd teledu a radio, ymgyrchydd[1] ac awdur Cymreig ydy Tudur Owen (ganed Mai 1967)[2].

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod]

Cafodd Tudur ei eni ar Ynys Môn. Ei rieni oedd y ffarmwr a dyn busnes Iolo Owen, Trefri (1931-2024) a Gwyneth.[3] Roedd yn un o pump o blant a fagwyd yn Nhrefri, un o ffermydd mwyaf stad Bodorgan.[4]

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Dechreuodd berfformio comedi ar ei sefyll trwy gyfrwng y Gymraeg yn 1999.[5]

Mae Tudur wedi ymddangos ar nifer o raglenni comedi ac adloniant S4C yn cynnwys Gwefreiddiol, Gwerthu Allan, Mawr a Noson Lawen.[6]. Mae wedi ysgrifennu ar gyfer rhaglenni fel Y Rhaglen Wirion ‘Na, Craig Ac Eifion, Teledu Eddie a Wil a Cêt.[7]

Yn 2009 fe gafodd gyfres sioe sgwrsio Tudur o'r Doc a oedd yn cael ei ffilmio yn Galeri, Caernarfon. Fe ddaeth y sioe 'nôl gydag ychydig o newidiadau a theitl newydd Sioe Tudur Owen yn 2011.[8][9]

Yn 2016 cyflwynodd raglen ddogfen Tudur Owen a'i Gwmni Pysgod oedd yn dilyn Tudur wrth geisio ail-gyflwyno modd o brynu pysgod ffres o'r Fenai yn siopau lleol Porthaethwy. Dilynwyd hyn gan gyfres lawn yn 2017 yn edrych ar sut i greu busnesau sy'n cynhyrchu a gwerthu yn y gymuned leol.[10]

Mae ganddo sioe ar brynhawn ddydd Gwener ac ar fore Sadwrn ar Radio Cymru.

Roedd yn berchen ar fusnes Tŷ Golchi sy'n cynnwys caffi, siop a chlwb comedi. Fe brynodd yr adeilad sydd wedi ei leoli rhwng Bangor a Chaernarfon a fe agorwyd y busnes ym mis Ionawr 2012.[11]

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Ym mis Hydref 2014, cafodd Tudur ddiagnosis o gancr y brostad a chyhoeddodd hyn ar ei sioe ar Radio Cymru. Derbyniodd lawdriniaeth yn Clatterbridge i waredu'r cancr, nad oedd wedi lledu. Ers hynny, mae Tudur yn ymgyrchu ac annog dynion i fod yn fwy ymwybodol o'r cyflwr.[12] Mae'n byw yn Y Felinheli gyda'i wraig Sharon ac mae ganddynt ddau blentyn.[13]

Ar 5 Gorffennaf 2022, fe'i anrhydeddwyd gan Brifysgol Bangor am ei gyfraniad i adloniant yng Nghymru. Derbyniodd radd Doethur mewn Llenyddiaeth a’i urddo gyda Gradd er Anrhydedd.[14]

Teledu[golygu | golygu cod]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Gwobrau[golygu | golygu cod]

  • Enillydd BAFTA Cymru 2009 – Sioe Adloniant Orau – Sioe PC Leslie Wynne (Ysgrifennwr/ Perfformiwr)
  • Enwebiad BAFTA Cymru 2010 – Sioe Adloniant Orau – Tudur Owen O’r Doc (Cynhyrchydd/Perfformiwr)
  • Enwebiad BAFTA Cymru 2010 – Cyflwynydd Gorau
  • Gwyl Cyfryngau Celtaidd 2009 – Rhaglen Adloniant Ysgafn Orau – Tudur Owen O’r Doc (Cynhyrchydd/Perfformiwr)
  • Enwebiad Royal Television Society 2011 - am “Wil & Cêt”

Dolenni Allanol[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) Eryl Crump (05.03.2015). Comedian Tudur Owen is 'sinning' across Wales. Daily Post. Adalwyd ar 29 Gorffennaf 2015.
  2. Cofnod cyfarwyddwr Ty'r Cwmniau; Adalwyd 5 Rhagfyr 2016
  3.  Y ffermwr a'r dyn busnes o Fôn, Iolo Trefri, wedi marw. BBC Cymru Fyw (27 Chwefror 2024).
  4.  Cefn Gwlad i ddathlu bywyd Iolo Trefri, tad Tudur Owen y digrifwr poblogaidd. Golwg360 (16 Gorffennaf 2022).
  5. (Saesneg) Comedy CV - Tudur Owen. Adalwyd ar 29 Gorffennaf 2015.
  6. Gwerthu Allan
  7. "CV Regan Management". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-01-30. Cyrchwyd 2015-07-29.
  8. Tudur Owen o'r Doc
  9. Anglesey's Tudur Owen prepares for new TV series
  10. Tudur Owen yn dod â marchnad bysgod 'nôl i Borthaethwy , 30 Ebrill 2016. Cyrchwyd ar 26 Ebrill 2017.
  11. Tudur Owen and Ty Golchi - now open
  12. (Saesneg) Hywel Trewyn (12 Mawrth 2015). Gwynedd comedian Tudur Owen urges men to get checked after having prostate removed. Daily Post. Adalwyd ar 29 Gorffennaf 2015.
  13. My favourite room: Comedian Tudur Owen , WalesOnline, 31 Gorffennaf 2010. Cyrchwyd ar 26 Ebrill 2017.
  14.  Y digrifwr a'r darlledwr Tudur Owen yn dod yn Ddoethur mewn Llenyddiaeth. Prifysgol Bangor (5 Gorffennaf 2022). Adalwyd ar 5 Gorffennaf 2022.
  15. "BBC - A month of comedy comes to BBC Wales - Media Centre". www.bbc.co.uk. Cyrchwyd 9 Mawrth 2020.
  16. "Tudur's TV Flashback". British Comedy Guide. Cyrchwyd 11 Awst 2020.