Trystan Gravelle

Oddi ar Wicipedia
Trystan Gravelle
Ganwyd1981 Edit this on Wikidata
Trimsaran Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethactor, actor ffilm, actor teledu Edit this on Wikidata

Actor theatr, ffilm-a-theledu Cymreig yw Trystan Gravelle (ganwyd 1981).[1]

Bywyd a gyrfa[golygu | golygu cod]

Ganwyd Gravelle ym mhentre Trimsaran yn Sir Gaerfyrddin.[2] Aeth i Ysgol Gyfun Y Strade. Roedd yn aelod o Theatr Ieuenctid Llanelli rhwng 1997 a 1999 cyn mynd yn fyfyriwr yn y Royal Academy of Dramatic Art.[2]

Ar ôl graddio o RADA, ymunodd Gravelle a'r Royal Shakespeare Company.[3]

Yn 2011 fe ymddangosodd gyferbyn Rhys Ifans a Vanessa Redgrave yn y ffilm Anonymous, oedd yn herio awduraeth dramau Shakespeare, yn chwarae Christopher Marlowe.[4] Methodd Gravelle fynd i ddangosiad cyntaf y ffilm yn Llundain oherwydd ei fod yn serennu yng nghynhyrchiad Mike Bartlett o 13 yn y National Theatre.[4]

Yn 2012 fe ymunodd a prif gast y ddrama gyfnod Mr Selfridge ar ITV fel Victor Colleano, dirprwy reolwr bwyty'r siop adrannol.[5] Yn haf 2012 fe'i henwyd fel un o 'Sêr Yfory' gan Screen International.[3] Gweithiodd Gravelle ar Mr Selfridge rhwng Ebrill a Hydref 2012,[5] ac fe ddangoswyd am y tro cyntaf yng ngwledydd Prydain yn Ionawr 2013.[6]

Ffilmyddiaeth detholedig[golygu | golygu cod]

Blwyddyn Teitl Rhan Nodiadau
2011 13 John Theatr
Anonymous Christopher Marlowe Ffilm nodwedd
2013 One Chance Matthew Ffilm nodwedd
2013-2016 Mr Selfridge Victor Colleano Cymeriad rheolaidd
2016 The Aliens Fabien Cymeriad rheolaidd
2016 National Treasure Paul Finchley ifanc Cymeriad rheolaidd
2017 Gap Year Eugene Pennod 1
2018 The Terror Henry Collins Cymeriad rheolaidd
2018 A Discovery of Witches Baldwin Montclair Cymeriad rheolaidd
2019 Baptiste Greg Cymeriad rheolaidd
2019 Britannia Derog Cyfres deledu
2020 Quiz Adrian Pollock Cyfres fer
2022 The Lord of the Rings: The Rings of Power Pharazôn[7] Cyfres deledu
TBA Great Expectations Compeyson Cyfres fer

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. IMDb: Trystan Gravelle Biography Linked 2014-03-06
  2. 2.0 2.1 "Actor Trystan a 'star in making'". Llanelli Star. 9 November 2011. Cyrchwyd 16 Ionawr 2013. Italic or bold markup not allowed in: |publisher= (help)
  3. 3.0 3.1 Halligan, Fionnualla (Mehefin 2012). "Stars of Tomorrow 2012" (PDF). Screen Daily. Screen International. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2012-07-03. Cyrchwyd 16 Ionawr 2013. Italic or bold markup not allowed in: |publisher= (help)
  4. 4.0 4.1 Price, Karen (29 October 2011). "Welsh actor Trystan Gravelle in London stage world premiere and new film Anonymous". Western Mail. Cyrchwyd 16 Ionawr 2013. Italic or bold markup not allowed in: |publisher= (help)
  5. 5.0 5.1 Mainwaring, Rachel (12 Ionawr 2013). "Trystan Gravelle on playing Mr Selfridge's ladies man Victor". Western Mail. Cyrchwyd 16 Ionawr 2013. Italic or bold markup not allowed in: |publisher= (help)
  6. Graham, Alison. "Mr Selfridge - Series 1 - Episode 1". Radio Times. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-04. Cyrchwyd 13 Ionawr 2013. Italic or bold markup not allowed in: |publisher= (help)
  7. Coggan, Devan. "Welcome to Númenor: Get an exclusive look at The Lord of the Rings: The Rings of Power". Entertainment Weekly (yn Saesneg). Meredith Corporation. Cyrchwyd 14 Gorffennaf 2022.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]