Trychineb Glofa'r Tarenni Gleision

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Digwyddodd Trychineb Glofa'r Tarenni Gleision (neu Glofa'r Gleision) ar y 15ed o Fedi, 2011; lleolir y lofa ger pentref Cilybebyll, Cwm Tawe. Roedd saith glöwr wrth eu gwaith mewn gwythïen o lo ac fel canlyniad i ffrwydrad dan-reolaeth, llifodd dŵr drwy'r creigiau. Dihangodd tri ohonynt am eu bywydau ac i fyny i'r wyneb. Cymerwyd un o'r rhain yn syth i Ysbyty Treforys yn Abertawe. Mae "gleision" yn ansoddair lluosog y gair "glas".

Glofa Gleision ydy un o’r ychydig byllau glo lleiaf sydd ar ôl yng Nghymru sy'n cael ei weithio drwy ddulliau hen ffasiwn, a hynny gan ddim ond saith dyn yn defnyddio ceibiau yn ogystal â ffrwydron i dorri’r glo; llwythant y tramiau efo llaw.

Gweithiodd y Frigâd Dân a Thîm Achub y Glowyr ar y cyd 90m (300tr) o dan yr wyneb. Bu'n rhaid i arbenigwyr o Dîm Achub y Glowyr balu drwy goed, mud a hylif dwst glo er mwyn ceisio canfod y glowyr.[1] Cyrhaeddodd y gwasanaethau brys y pwll yn fuan iawn wedi i bobl sefyllfa fod damwain wedi digwydd. Ar 16 Medi 2011 cadarnhaodd llefarydd ar ran Heddlu De Cymru fod cyrff y pedwar glowyr wedi'u darganfod fesul un: Charles Breslin, 62; David Powell, 50; Garry Jenkins, 39; a Phillip Hill, 45. Cyhoeddwyd y cynhelir ymchwiliad ac agorir cronfa.[2]

Cyfeiriadau[golygu]