Trychineb Bhopal

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Bhopal: rhan o adfeilion y ffatri, 2008.
Gorymdaith brotest yn galw am iawndal, Bhopal.

Digwyddodd Trychineb Bhopal yn ystod noswaith 3 Rhagfyr 1984, pan gollwyd nwy gwenwynig methyl isoseianid o ffatri cynhyrchu plaladdwyr Union Carbide yn ninas Bhopal, talaith Madhya Pradesh, India. Lladdwyd mwy na 3,000 o bobl ar y pryd yn y ddinas a'r cyffiniau, ac anafwyd mwy na 100,000. Hyd yn hyn mae rhwng 15,000 a 22,000 o'r rhai a anafwyd wedi marw o effeithiau'r gwenwyn, ac mae miloedd eraill yn parhau i ddioddef yr effeithiau dros ugain mlynedd yn ddiweddarach.

Flag of India.svg Eginyn erthygl sydd uchod am India. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.