Trwyn-y-llo-dail-eiddew yr Eidal

Oddi ar Wicipedia
Cymbalaria pallida
Delwedd o'r rhywogaeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Urdd: Asterales
Teulu: Asteraceae
Genws: Cymbalaria
Rhywogaeth: C. pallida
Enw deuenwol
C. pallida'

Planhigyn blodeuol o deulu llygad y dydd a blodyn haul ydy Trwyn-y-llo-dail-eiddew yr Eidal sy'n enw gwrywaidd. Mae'n perthyn i'r teulu Asteraceae. Yr enw gwyddonol (Lladin) yw Cymbalaria pallida (C. pallida) a'r enw Saesneg yw Italian toadflax.[1] Ceir enwau Cymraeg eraill ar y planhigyn hwn gan gynnwys Llin y Fagwyr Mwyaf.

Daw'r gair "Asteraceae", sef yr enw ar y teulu hwn, o'r gair 'Aster', y genws mwyaf lluosog o'r teulu - ac sy'n tarddu o'r gair Groeg ἀστήρ, sef 'seren'.

Disgrifiad[golygu | golygu cod]

Planhigyn lluosflwydd yw Trwyn-y-llo sy'n tyfu i uchter o rhwng 5 a 15 cm (2.0–5.9 mod) gyda bonyn bychan a dail cyferbyn, siap aren. Mae'r calycs yn flewog iawn gyda llabedi crwm a'r corola yn 8–10 mm (0.31–0.39 mod) o led. Mae i liw fioled, gyda gwyn yn y canol, gydag arlliw o felyn a phoffor a llabedi siap wy yng ngwaelod y petalau. Maent yn blodeuo rhwng Mehefin ag Awst.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gerddi Kew; adalwyd 21 Ionawr 2015
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: