Troed-yr-ŵydd mawr

Oddi ar Wicipedia
Chenopodium giganteum
Delwedd o'r rhywogaeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosbermau
Ddim wedi'i restru: Ewdicotau
Ddim wedi'i restru: Ewdicotau craidd
Urdd: Caryophyllales
Teulu: Amaranthaceae
Genws: Chenopodium
Rhywogaeth: C. giganteum
Enw deuenwol
Chenopodium giganteum
D.Don

Planhigyn blodeuol yw Troed-yr-ŵydd mawr sy'n enw gwrywaidd. Mae'n perthyn i'r teulu Amaranthaceae yn y genws Chenopodium. Yr enw gwyddonol (Lladin) yw Chenopodium giganteum a'r enw Saesneg yw Tree spinach. Mae'n frodorol o India.[1]

Chenopodium giganteum

Mae'n blanhigyn blynyddol sy'n tyfu i uchder o tua 8 troedfedd. Nid oes ganddo stipwl (neu ddeilen fach). Fel arfer mae'r dail yn ddanheddog.

Gellir ei fwyta fel llysieuyn ac mae blas chard neu sbidoglys arno, gydag arlliw o asbaragws.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Eat Your Weeds:Magenta Spreen". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-10-27. Cyrchwyd 2010-07-07.
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: