Troed-yr-ŵydd gwyn

Oddi ar Wicipedia
Chenopodium album
Delwedd o'r rhywogaeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosbermau
Ddim wedi'i restru: Ewdicotau
Ddim wedi'i restru: Ewdicotau craidd
Urdd: Caryophyllales
Teulu: Chenopodiaceae
Genws: Chenopodium
Rhywogaeth: C. album
Enw deuenwol
Chenopodium album
Carl Linnaeus

Planhigyn blodeuol blynyddol sy'n cael ei gyfrif yn chwynyn gan y garddwr yw Troed-yr-ŵydd gwyn sy'n enw gwrywaidd. Mae'n perthyn i'r teulu Chenopodiaceae. Yr enw gwyddonol (Lladin) yw Chenopodium album a'r enw Saesneg yw Fat hen.[1] Ceir enwau Cymraeg eraill ar y planhigyn hwn gan gynnwys Tafod yr Oen, Blodau'r Domen, Gwydd-droed Bwytadwy, Gwydd-droed Gwyn, Gwydd-droed Gwynaidd, Troed yr Wydd, Troed yr Wydd Gwynaidd.

Yn India, caiff ei dyfu er mwyn ei fwyta; yno fe'i gelwir yn bathua neu bathuwa (बथुआ) (Marathi: चाकवत).[2]

Ecoleg[golygu | golygu cod]

Mae‘r planhigyn yn cael ei ffafrio i ymledu am gyfnodau ar hyd ochr ffyrdd ar ôl gaeafau celyd megis 2011, yn dilyn gaeaf caled 2010 pan halltwyd y ffyrdd yn helaeth rhag rhew. Pam arall fyddai planhigyn yn ffynnu yn y fath le, lle mae dŵr hallt wedi llifo i lawr camber y ffordd a chrynhoi? Mae’n perthyn i deulu’r Chenopodiaceae sydd yn cynnwys rhywogaethau fel yr Atriplex sydd wrth eu bodd ar lan y môr ac mewn corsydd heli.[3]

Troed yr ŵydd gwyn yn ymledu ar hyd ffordd yn Waunfawr ar ôl gaeaf caled 2010 yn dilyn halltu’r ffyrdd yn helaeth.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gerddi Kew; adalwyd 21 Ionawr 2015
  2. [http: //www.flowersofindia.net/catalog/slides/Bathua.html "Chenopodium album - Bathua"] Check |url= value (help). Flowersofindia.net. Cyrchwyd 2013-08-15.
  3. Bwletin Llên Natur 41
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: